"Gelwir offeiriades y ffynnon yn Llyfr Du Caerfyrddin, 'finaun wenestri,' gweinidoges y ffynnon.' Ceir yr enw yn y gân am Seithennin cân a esbonir fel traddodiad am suddiad Cantre'r Gwaelod. Gweinidoges neu offeiriades y ffynnon oedd y forwyn a felldithir yn y gân. Mae'n debyg iddi esgeuluso gosod y cauad dros y ffynnon, ac i'r dwfr fwrlymu allan, a chuddio 'maes guitnev' 'Maes Gwyddno. Ei enw oedd Meredid yn awr Marged=Pegi." Dyna eto enw morwyn—Grasifu'n gwasanaethu fel offeiriades warcheidiol Ffynnon Glasfryn, ond fel Pegi Cantre'r Gwaelod, morwyn anfuddiol ac anffyddlawn i'w hymrwymiad fu hithau.
XXI. FFYNNON GADFEIRCH.
Nid oes yn y lle ffynnon yn bresenol—dim ond pistyll cryf yn crychferwi o'r ddaear yn nhir Bwlch-y-ffordd, gan ddisgyn yn ddwyreiniol i'r afon Erch, ar derfyn plwyf Llangybi. Dywed traddodiad mai yr iawn enw ydyw "Ffynnon gâd dy farch," deilliedig o'r ffaith ddarfod i frwydr gael ei hymladd ar y llecyn—fod y naill fyddin ar y Bryniau Duon, ar y tu dwyreiniol i'r afon Erch, a'r llall ar Frynllyngedwydd yr ochr gyferbyniol, ac ddarfod i'r ddwy fyddin ddyfod i gyfarfyddiad â'u gilydd yn ymyl y ffynnon—i farch y naill gadfridog syrthio i ddwylaw plaid y cadfridog arall, ac yna i'w gatrawd floeddio yn y dafodiaeth gyffredin "Gâd dy farch," ond, atolwg, paham y mynir mai "Ffynnon Gadfeirch "yw enw priodol y ffynnon, tra mai "Ffynnon gâd dy farch" olygid fel ystyr gwreiddiol ei henw
XXII. FFYNNON FEDNANT.
Crydle y ffynnon hon, cyn syrthio o honi i'w chyflwr adfeiliedig, oedd mewn cae islaw Llwyn