Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/194

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXVIII. FFYNNON SARFF.

Gellir gweled y ffynnon uchod yn ngodre gorllewinol Mynydd Mynytho, rhwng Capel Saethon a Chapel Nant, yn nghwr uchaf "Gwinllan Sarff," ychydig yn ogleddol i dy o'r enw Tan-y-graig, yn mhlwyf Llangian. Ffynnon fechan, loew, flasus a dihysbydd ydyw; a sarff, yn ol hen gredoau, yn byw ynddi. Ond yr esboniad mwyaf cydweddol ar yr enw ydyw, y byddai sarff beryglus yn lletya y rhan fwyaf o'i hamser yn agos i'r ffynnon, mewn gwinllan a elwir hyd heddyw ar ei henw, yr hon a arferai fynychu'r ffynnon i lymeitian pan yn sychedig, eithr bob amser, yn unol â'r chwedl a briodolir i fuchedd nadroedd, yn dodi ei gwenwyn ar gareg o'r neilldu cyn dechreu ymyfed, yr hyn yn ddigon rhesymol, a barodd i "lafar gwlad " neu "len y werin "enwi'r ffynnon yn "Ffynon Sarff." Ond, pa un ai â'r ffynnon ai ynte'r winllan y cysylltwyd yr enw sarff gyntaf sydd ansicr —tybir y naill a'r llall, am fod dynion yn barod, bob yn ail, i ammheu pob peth ac i gredu pob peth.

XXIX. FFYNNON SAETHON.

Ffynnon a'i gwely wedi ei naddu yn ddwyreiniol i wyneb craig, ac wedi ei gwalio yn gryf o'r tu arall, ydyw hon. Y mae yn dair llath a dwy droedfedd o hyd wrth ddwy lath a dwy droedfedd o led. Y mae iddi darddiad cryf, a bwria ei dwfr grisialaidd a pheraidd yn ffrwd feunyddiol. Dywed traddodiad yr arferai hen foneddion Saethion, yn yr un plwyf—Llanfihangel Bachellaeth, ymdrochi ynddi ar gylch haf a gauaf—y byddai pererindodau yn cael eu gwneyd iddi; ac o fewn cof yr oedd gan lawer ffydd gref yn ei rhinweddau. Pan y byddai ar bobl ieuaingc eisiau gwybod yn iawn pa un a fyddai y cariadau yn ffyddlawn ai na fyddent, nid oedd eisiau tuag at hyny ond