Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

taflu pin i'r ffynnon hon; os safai y pin ar wyneb y dwfr, byddai cariad pur yn bodoli, ond os suddai yr oedd lle i amheu.

XXX. FFYNNON FAIR.

Mewn llecyn llechweddog yn nhir y Foel Fawr, plwyf Llanbedrog, y mae y ffynnon hon, a'i ffurf yn driongl, rywbeth yn debyg i'r delyn Gymreig, wedi ei chyflwyno i nawdd y Forwyn Fair, a'i dwfr heb fod un amser yn fwy na llai. Credid fod rhinwedd anffaeledig ynddi i iachau bron bob math o ddoluriau ar ddyn ac anifail, ond rhaid, meddid, oedd credu yn gyntaf yn ei rhinwedd, ac i'r claf neu berchenog unrhyw anifail a fyddai i ddefnyddio ei dwfr, ymgrymu ar ei liniau ger ei glan, ac addef fod ganddo ffydd yn ei dwfr. Hefyd, os byddai eisiau gwybod pwy fyddai wedi lladrata unrhyw beth, nid oedd dim yn fwy syml; taflu tamaid o fara i'r ffynnon hon, ac ar yr un pryd enwi yr hwn a amheuid; os suddai y bara, gwybyddid pwy fyddai y lleidr; os na suddai, cynnygid drachefn a thrachefn, nes cael gafael ynddo. Yr oedd y ffynnon hon yn cael parch annghyffredin yn yr hen amser, ond bydd ei choffadwriaeth wedi myned heibio erbyn yr oes nesaf; canys nid oes ond ychydig yn gwybod am dani yn bresennol, ac y mae, o ran ei chyflwr, yn adfeiliedig a diymgeledd.

XXXI. Y FFYNNON FYW.

Y mae lleoliad y ffynnon ragorol hon mewn rhosdir eang ar Fynytho, plwyf Llangian, a dylifiad o ddwfr glân yn rhedeg o honi, ac o'i blaen lyn fel rhyw gronfa i ddal y dwfr at wasanaeth anifeiliaid. Ei holl ranau ydynt o osodiad onglog, yn oddeutu tair llath o hyd wrth ddwy lath a chwe modfedd o led, ac oddeutu llathen o ddyfnder, wedi ei murio yn gadarn oddimewn ac oddi