gelain ci neu gath, peidiodd dyfroedd y ddwy a tharddu o'r pryd hwnw hyd y pryd hwn, oddieithr bob yn ail blwyddyn, yn rheolaidd, boed yr hinsawdd o duedd bynag y bo—gwlyb ai ynte sych; ond erbyn hyn, y mae gogoniant y ddwy drosodd, a'u defnyddioldeb meddyginiaethol wedi darfod. Gymmaint oedd y son am y Ffynnon Fyw fel yr edrychid arni fel llygad rhyw dduw, ac yn unol â'r fath gred rhyw adeg yn gynt na chof, adnabyddid hi wrth yr enw Ffynnon Dduw," yn hytrach na "Ffynnon Fyw."
XXXII. FFYNNON TUDWAL.
Yr oedd hon gynt i'w gweled yn nhir y Penrhyn, plwyf Llanengan, yn bwrw allan helaethrwydd o ddwfr gloew a pheraidd, ag ynddo meddai yr hen bobl, rinweddau i wellhau gwahanol glefydau a doluriau. Yr oedd un hynodrwydd arall yn perthyn iddi. Nid oedd mwy na naw modfedd o ddwfr ynddi un amser, yr hyn oedd yn syndod i lawer. Ond y dirgelwch fod yr un ddyfnder o ddwfr ynddi bob amser, oedd fod yn yr uchder hwnw wagle bychan yn un o'r ceryg oedd yn ffurfio ochrau iddi, digon i roi blaen cyllell deneu, felly buasai yn wyrth i'r dwfr lanw yn uwch na'r man neillduol hwnw. Diflanodd ei nodwedd wedi agor y gwaith plwm yn y gymmydogaeth, fel nad oes, erbyn hyn i'w adnabod o honi namyn ei henw fel ffynnon Sant Tudwal.
XXXIII. FFYNNON AELRHIW.
Mae y ffynnon hon o ffurf betryal, yn oddeutu deg troedfedd bob ffordd, ac wedi ei murio â cheryg, a'i chylchynu â maingc i eistedd. Cafodd ei henw er parch i sant yr Eglwys gyfagos iddi—y Rhiw, yn briodol Aelrhiw, ond collodd yr enw gwreiddiol, a chafodd yr enw Ffynnon