Eilw, oddiwrth ei bod yn gwellhau y rhai a flinid gan y Manwynau. Cyrchai llawer o bererinion clwyfus tuag ati er mwyn bendith Sant Aelrhiw ar gymhwysiad o'i dyfroedd, i wellhau eu haml anhwylderau, a diamheu i lawer gael lleshad oddiwrthi, a chredu yn gryf mai gwyrth oedd.
XXXIV. FFYNNON CEFN LLEITHFAN.
Y mae lleoliad y ffynnon hon ar lechwedd dwyreiniol mynydd y Rhiw, yn mhlwyf Bryncroes. Ei ffurf sydd onglog, yn oddeutu dwy lath a dwy droedfedd o hyd wrth ddwy lath o led wedi ei murio yn gryf, a grisfa o ddau gyfeiriad i fyned i lawr iddi. Cyrchid ati gan lawer o gleifion o bell' ac agos, yn enwedig y rhai a flinid gan ddafadenau, at yr hwn anhwylder y cyfrifid ei dwfr yn dra rhinweddol, ond gweithredu yn ol y cyfarwyddyd angenrheidiol, sef, myned at y ffynnon heb ymddiddan â neb ar y ffordd, nac edrych yn ol, a golchi y dafadenau â chadach a bloneg, ac wedi golchi y manau angenrheidiol yn dda a'r pethau hyn, yna eu cuddio dan gareg y ffynnon. Wedi hyny troi yn ol ac ymddwyn yn yr un modd ag yr aed at y ffynnon, ac iach fyddid oddiwrth y dafadenau.
XXXV. FFYNNON SAINT.
Yr oedd hon gynt i'w gweled braidd yn sawdl gogledd-ddwyreiniol mynydd y Rhiw, mewn llecyn pantiog yn nhir Bron Llwyd, islaw Tref Dindywydd; ond erbyn hyn y mae yn hollol ddiymgeledd, a'i defnyddioldeb wedi darfod. Bob dydd Iau Dyrchafael, elai menywod yr ardal ati i olchi eu llygaid, a thaflent bob un bin i mewn iddi fel arwydd o ddiolchgarwch.