oddiwrth gyflead y ffynnonau, ac mai Bar—fauo bar a bau, yw yr ystyr, ac nid Barf—au.
{{c|XLII. FFYNNON BEDROG. Mae y ffynnon adfeiliedig hon i'w gweled yn nhir Bryn Du, ger pentref Pigstryd, nid nemor bellach o Lanbedrog. Ei chrydle sydd wrth ystlys hen glawdd unig, ar lecyn garw, didriniaeth i raddau. Lliosog ydynt y traddodiadau am iachusrwydd ei dwfr, ei burdeb, a'i rinwedd gwyrthiol. Nid oedd na chlefyd, nag anaf, na cheid ymwared oddiwrthynt, trwy iawn ddefnyddiad o hono, yn ol hen goelion. Yn lled ddiweddar, cafwyd llestr crwn o faen du yn ei gwaelod, yr hwn oedd bron yn llawn o binau, ond dim arian, wedi eu bwrw iddo megis hedd-aberth i Bedrog Sant, wrth gyfarwyddyd rhywun ag oedd yn ennill ei fywoliaeth trwy drafod dewiniaeth ac ymborthi ar wobr coelgrefydd dan gochl mantell hen Sant marw bythol-fyw y plwyf. Pa amser y dechreuwyd offrymu pinau, nis gwyddys, canys nid oeddynt wedi cael eu dyfeisio yn amser y seintiau.
XLIII. FFYNNON CAWRDAF.
Mae cyflead Ffynnon Cawrdaf—sant enwog yn ei ddydd, yn nhir Tan-y-graig, plwyf Abererch, ar lecyn llechweddog yn wynebu haul y boreu, allan o bob swn a dwndwr bydol, o fewn tua milldir i lan y mor." Y mae yn meddu ar ddigonedd o "ddyfroedd byw"—dwfr yn tarddu, a dwfr rhedegog, yr hyn ydyw ystyr "dyfroedd byw." Yn ol cofnodion dyddiau fu—dyddiau'r gorphenol pell, perthynai i'w dwfr grisialaidd ac iachus rinwedd anffaeledig i wella pob math o glefydau ac anhwylderau ag oeddynt ddarostyngedig i bobl yr hen amserau, yr hyn a barodd iddi fod yn wrthddrych