Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edmygedd nodedig ag sydd yn aros hyd y dydd heddyw megis llythyren goch yn nghalendar cof y werin. Mae yn amlwg fod yr hen seintiau Cymreig yn deall beth oedd gwerth dwfr iachus, a rhyw fodd neu gilydd nid yw y gred yn rhinwedd gwyrthiol ffynnon gyflwynedig i ryw sant yn lleihau yn gyflym iawn.

XLIV. FFYNNON DUDWEN.

Y ffynnon hon ydoedd gyssegredig i Landudwen—eglwys a sefydlwyd gan y Santes Tudwen, yr hon oedd yn ei blodau, fel y tybir, tua dechreu y seithfed ganrif. Erbyn hyn, nid oes yn aros o'r hen ffynnon, ragor na'i llefod yn nghwr cae ger yr Eglwys—amser wedi ei thori i lawr a'i chladdu yn ei phwll ei hun; ond y mae iddi ei hanes—cyrchai lluoedd iddi o bob cyfeiriad, taflent arian a phinau iddi mewn trefn i sicrhau bendith iddynt eu hunain oddiwrth y Santes ysbrydol oedd yn llywodraethu ffrydiad a llesiant ei dwfr er cynnydd i gnwd y tir, ac yn neillduol er iechyd i ddyn, am y cyfrifid ei dwfr yn effeithiol i wrth-weithio anhwylderau y llygaid—y dwymyn ddyspeidiol, y crvd cymmalau, gwendid yn y gewvnau, arteithiau y rhai a gystuddid gan y Digwydd, sef rhyw fath o wasgfeuon neu lewygon. Ond, erbyn hyn, er cael o honi ei hadnabod gan bawb wrth yr enw nodweddiadol "Ffynnon Dudwen," yn ogystal ag mai dwfr o honi ddefnyddiwyd yn y weithred o fedyddio y mebyn hwnw—yr Esgob Fychan wedi hyny, cyn belled ag y mae tebygoliaeth lleol a hen draddodiad yr ardal neu lais gwlad, yn myned. Onid yw yn resyn na byddai modd cael gafael ar gofnodion o'r oll a fedyddiwyd gyda'i dwfr, ac o'r priodasau dirgel mynych a gymerent le gerllaw iddi, yn ystod y canrifoedd aethant heibio, ond y mae hyny i raddau yn anmhosibl, am nad oes ar gael gofnodion difwlch o