Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLÊN GWERIN SIR
GAERNARFON.

PENNOD I.
ARWEINIAD.

Llên ydyw dysg, sef erudition y Sais; h.y., dysgeidiaeth neu ysgoleigdod. Gwr llên y Gymraeg yw Clergyman y Saesneg. Yr ystyr hwn sydd yn y gair darllen. Y mae yr ê hir yn llên (dysg) yn troi yn è fer yn darllen. Ystyr y darllen, gan hyny, fel berf, ydyw darddysgu. Gelwid gynt, yr offeiriaid yn wŷr llên, am mai hwy oeddynt y corff neu'r dosbarth yn mhlith y bobl (oddiwrth llen llenoriaeth, dysg). Y mae Salsbri yn gyffredin yn cyfieithu "ysgrifenyddion" y cyfieithiad cyffredin yw "wyr llên." Golygai y gwŷr llên yn y wlad hon bawb ag oeddynt mewn urddau eglwysig cyn amser Luther, mwynhaent amryw freintiau gwladol; ond rhoddwyd terfyn ar y rhai hyny wedi'r Diwygiad, i raddau pell. Gwerin, drachefn, yw gwladogaeth. Gan hyny, Llên Gwerin yw Llafar Gwlad neu Ddysg Gwlad neu wladogaeth, yr hyn a eilw y Sais yn Folklore. Cynnwysa y gangen hon o lên lawer iawn o wahanol bethau ag y mae yn dra anhawdd amlinellu eu ffiniau, yn herwydd niferi eu gwahanol faterion; ond yn y ganrif ddiweddaf, a dechreu y ganrif bresenol, drwy fusgrellni, diogi, a diofalwch Hanesyddion y Cymry; y mae amryw o'u defodau,