gerllaw i'r lle hwnw weddillion yr hen dref Gymreig sydd yn awr yn orchuddiedig gan y môr, ac mai enw y dref ydoedd Caer Arianrod. Yn y Trioedd, cawn fod i Don ferch o'r enw Arianrod yn cael ei rhestru gyda Gwenn ferch Cywryd ap Crydon a Creirwy merch Ceridwen, dan y penawd, "Tair Gwenrian Ynys Prydain."
IV. CANTREF Y GWAELOD.
Traddodiad a ddywed ddarfod cyfodi gwrthglawdd, ryw oesau pell yn ol, a'i fod yn cyrhaeddyd o'r Penrhyn Du, yn Lleyn, i gyfeiriad Sarn y Bwch, neu rhywle yn ochr Meirion, a bod y môr yn treio islaw iddo ddwy waith bob pedair awr ar ugain—fod Seithenyn, ceidwad y dorau, oherwydd meddwdod wedi esgeuluso cau y dorau yn yr adeg briodol, a thrwy hyny, ddarfod i'r môr ymarllwys a gorchuddio yr holl ddyffryn i'r pellder a'r uchder y gwelir ef yn bresennol. Bernir i hyny ddigwydd o'r flwyddyn 540 i'r flwyddyn 550, neu 560 o'r pellaf, sef yn amser Gwyddno Garanhir, tad Elphin, yr hwn, medd y chwedl, a gafodd afael yn y cynfardd Taliesin mewn côd groen, yn agored Gwyddno ei dad.
V. CASTELL CIDWM.
Y mae safle y castell yma yn mhlwyf Llanwnda. Dywed y werin mai ystyr Cidwm yw blaidd, ac mai pan ddinystriwyd y castell ddarfod i flaidd wneyd ei wal yno, drwy yr hyn y cafodd yr enw. Hefyd, "dywedir mai amddiffynfa a gyfanneddid gan ryw foneddwr ysbeilgar ydoedd, yr hwn a laddodd frawd i Cystenyn Fawr, drwy saethu ato pan yr oedd yn myned heibio gyda nifer o filwyr, yn y dyffryn islaw, i gyfarfod a'i fam yn agos i Danybwlch. Neu, mewn arweddiad arall, pan oedd.