Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elen Lwyddawg a'i mab ieuengaf yn arwain eu llu o Gaer Seiont i Gaer Eryri, drwy Feddgelert, yr oedd mab arall iddi o'r enw Cidwm, un afradlon a drwg, mewn eiddigedd at y brawd ieuengaf, ac yn wastad yn cynllwyn am ei fywyd. Yr oedd wedi ymguddio yn y clogwyn gyda'r amcan o saethu ei frawd pan fyddai yn myned heibio gyda'r fyddin. Ei fam a aethai heibio yn arwain y fyddin flaenaf, a'r brawd ieuengaf hwn ydoedd yn dilyn gyda'r ôl-fyddin. Canfyddodd un o'r milwyr Cidwm yn cyfodi o'i guddfan gan anelu tua bon y fyddin, a chan ei fod yn ei adnabod ac yn deall ei ystrywiau, bloeddiodd allan "Llech yr Olaf," yr hyn a atebwyd gan yr holl fyddin; ond cyn i'r olaf lechu, yr oedd saeth y brawd-leiddiad wedi ei wanu yn farwol. Er cof o'r amgylchiad, galwyd llechfan Cidwm ar ei enw, a cheir amaethfa fechan yn agos i'r lle yn dwyn yr enw "Llech yr Olaf, meddir, yn dystiolaeth sicr parthed rhybudd y milwr." Ond, i'r neb a ewyllysio edrych heibio i hen chwedlau, canfyddir nad yw Cidwm ond enw a roddir ar fodau a phethau cuchiog ac uthrol; ac felly mai ystyr Castell Cidwm yn ddiau yw Castell Uthrol. Nis gall pethau fod yn guchiog—bodau ydynt yn guchiog, a phethau yn uthrol ac ysgythrog.

VI. CASTELLMARCH.

Palasdy henafol, yn mhlwyf Llangian, yw Castellmarch, yr hwn, meddir, a fu unwaith yn annedd i March ap Meirchion, un o farchogion Arthur; cybydd ofnadwy, ac iddo glustiau hirion fel clustiau march, a dyna y sail neu y rheswm i'r castell gael ei enw yn Castellmarch. Dywed traddodiad mai gormeswr creulawn ydoedd, ac y byddai cyflyrau ei dirddeiliaid a phreswylwyr ereill y rhanbarth cylchynol iddo yn un o wasyddiaeth