argent a chevron between three nag's heads erased sable, sef, cwpl arianliw rhwng tri phen ceffyl bychan toredig du.
VII. CROMLECH GANTHRIG BWT.
"Mae y lle hwn yn nghreigiau Mur Mawr, yn Mwlch Llanberis, y naill du i Ynys Hetws. Gelwir ef felly, meddir, am fod hen wrach o'r enw Ganthrig wedi bod yn trigiannu yno. Heb fod yn mhell oddiyno y mae lle arall a elwir Cwm-y-wrach. Dywed traddodiad fod teuluoedd yn colli eu plant yn y cymmydogaethau hyny rai oesau yn ol, a methid er pob ymdrech a gwybod beth oedd wedi dod o honynt. Tybiai rhai mai rhyw anifeiliaid gwylltion oedd yn dyfod i'w lladratta, ac yn eu difa yr un modd ag yr oeddynt yn gwneyd gyda'r defaid. Yr oedd pawb yn adnabod yr hen wrach oedd yn byw tua'r gromlech, a byddai y plant yn rhedeg mewn dychryn pan y gwelent hi yn rhywle; ond ni ddaeth i feddwl neb y byddai yn gwneyd dim i un o honynt. Ryw dro, yn mhen "hir a hwyr" darfu i gi oedd gydag un o weision y Cwmglas, ddod o hyd i ddarn o ryw ysgerbwd yn agos i'r man ag yr oedd Ganthrig yn trigo, ac wedi sylwi arno, gwelwyd mai llaw plentyn bychan ydoedd, ac adnabyddwyd hi fel llaw un o'r plant. oedd ar goll, drwy fod y bychan hwnw, o ryw anffawd, wedi tori un o'i fysedd. Drwgdybiwyd Ganthrig fel yr un oedd yn lladrata plant, a'i bod hefyd yn eu lladd ac yn eu bwyta. Wedi deall hyn, penderfynodd y trigolion ei gwylio, ac os byddai bosibl rhoddi pen arni, ac aeth un o'r dynion at enau ei hogof, a chlywodd lais plentyn yn wylo. Gwaeddodd ar Ganthrig i ddod allan, fod ganddo blant iddi; hithau a ddywedodd y deuai, ar ol iddi drin pen ei phlentyn.
Cyn hir daeth allan, a rhuthrodd y dyn ati, a thorodd ei