Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu gwyliau, a'u gwleddoedd, wedi myned ar y gwaddod, ac i lethri serthaidd clogwyni oerllyd annghof. Nid oes ond odid, un parth o'r deyrnas, yn llawnach o'r pethau dyddorol hyn na Thywysogaeth Cymru. Cydnabyddir mai hi ydyw mam Mabinogiaeth y Cyfandir, yr un wedd ag y mae Arabia yn fam Chwedloniaeth y Dwyreinfyd; a thybir yn mha le bynag y gellir olrhain y gwaed Celtig, mai sicr yw y ceir yno Lenoriaeth Werinol mewn mwy neu lai o wychder.

Y mae gan bob gwlad ei Llên Gwerin; a bernir fod eu lliosogrwydd a'u hamrywiaeth yn dibynu ar hinsawdd a golygfa arwynebol lleoedd, ac o ganlyniad, fod tymerau y mynyddwyr yn fwy eofn, cadarn, lleteugar, a ffyrnigwyllt, nag eiddo cyfaneddwyr y gwastad—leoedd a dychymyg eu meddyliau wedi tywyllu gan olygfeydd eu bro gynhenid, a ffugia ddrychiolaethau a lledrithiau rhyfeddol, fel eu mynyddoedd, ac erchyll fel eu tymestloedd. Os felly, cymmer sir neilldu—anneddol a bugeiliol Arfon, ei lle yn rhwydd yn nosbarth blaenaf siroedd Cymru, fel mangre effeithiol i gynyrchu y gangen hon o Lenoriaeth. Mae y sir hon yn un o'r siroedd hyny ag sydd yn meddu y golygfeydd mwyaf amrywiol ac arddunol yn Ngwalia y mae drwyddi oll yn berwi o ddyddordeb. Os hynafiaethwr fydd yr ymwelydd, efe a gâ lonaid ei fynwes o wrthddrychau i'w edmygedd; os hoffwr tlysni mewn natur, pa le y câ dlysach golygfeydd? Os y gwyllt a'r rhamantus a dyn ei sylw, caiff esgyn penau y mynyddoedd, "a gweled moelydd megis wedi eu codi o'r gwraidd a'u taflu i le arall o'r neilldu, yn foelydd wrth draed moelydd, ac yn foelydd wrth gefn ac uwchlaw moelydd, modd y gellid croni y dyfroedd yn llynau yn eu lleoedd; ac os na foddheir ei galon yn y golygfeydd mawreddog hyny, rhaid iddo fyned dros fôr i ganfod eu hamgenach." Y mae yn cynnwys braidd bob math o olygfa o'r llyfn-