Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

herwydd yn " Nant-y-Llef," neu "Nanlle". Gall ymchwilwyr i athroniaeth enwau lleoedd gynnyg tarddiadau ereill i'r enw, megis ei fod yn ddeilliedig oddiwrth Llew neu Lleu Llawgyffes, yr hwn oedd fab i Gwydion ap Don; neu, ynte, mai Nantle yw gwir hanfod Nanlle, fod dodi at y gwreiddair nant yn treiglo yr ll yn l, sef Nantle, fel yn y gair Nantlys.

XVII. NANT GWRTHEYRN.

Tybir mai y gair yn gyflawn ydyw Gwrthdeyrn, a'i fod yn gosod allan esgyniad annghyfiawn a thraws-arglwyddiaethol y tywysog hwn i'r orsedd; ac yn ddiau nid yw y golygiad hwn yn cael ei wanhau yn ei hanes canlynol:—Trechodd ei gydymgeisydd Emrys Wledig, fel y bu gorfod iddo ffoi i Lydaw. Gosododd ei nai Cystenyn Fawr i farwolaeth, a "dycodd (medd y Trioedd) goron yr ynys o drais ac anrhaith." Coron yr ynys ydoedd yr awdurdod o fod yn Benteyrn. Yr oedd hyn yn cael ei hawlio gan ddau brif lwyth yr ynys, y Cymry a'r Lloegriaid; hanai Gwrtheyrn o'r olaf. Hawliai y Cymry drwy linach ddidor o Prydain ap Aedd Mawr; ac fel meddiannwyr cyntaf yr ynys, mai iddynt hwy yn unig y perthynai y cyfryw anrhydedd; ond drwy gyfrwysdra, creulonder, a brad, enillodd Gwrtheryn hi, a iawn y gallai y Cymry ei alw Gwrth—deyrn, a charn—fradwr ei wlad. Adroddir fod Gwrtheyrn, ar ol cael allan ei analluogrwydd i wrthsefyll y Saeson dichellgar, y rhai yr oedd efe wedi eu gwahodd i Brydain yn 449, wedi penderfynu dilyn cynghor y dewiniaid, ac adeiladu castell anorchfygol ar fynydd yn Eryri. Casglodd y defnyddiau yn nghyd, y rhai a ddiflanasant i gyd yr un noson. Mewn syndod, galwodd yn nghyd wyr doethion