Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymaith y gilfach erchyll hon, lle y dywed chwedl i dri gwr wrth gerdd—Pibydd, Cornor, a Chrythor, droi wrth fyned o Griccieth i lys Bron-y-Foel i gadw neithior, yn ol arfer gwlad y pryd hyny. Yn nghwrs eu taith, a hi yn nos, daeth i'w cyfarfod foneddwr a'i osgordd yn ei ganlyn; ac wedi eu moesgyfarch, eu holi, a chael eu hanes, ceisiodd ganddynt ddyfod gydag ef y noson hono —y caent fyned i Fron-y-Foel nos dranoeth, a. thrwy iddo eu denu â swm mawr o aur, yn ngwyneb eu cyndynrwydd i gydsynio â'i gais, aethant o'i ol, ac fel yr oeddynt yn myned yn mlaen collasant adnabyddiaeth o'r wlad yr oeddynt yn myned drwyddi, yr oedd pob man yn hollol ddieithr iddynt y palas a'i neuadd eang ysblenydd, llawn o wychder, a llawn o erchylldod—y gweision, fel gweision tywysog, a'u harweiniasant. fel na welwyd mo honynt byth mwy.

Ond ryw dro, yn mhen "hir a hwyr," tra yr oedd un o fugeiliaid y Cefn Coch yn myned i fyny i gyfeiriad Moel Hebog, efe a glywai swn Pib yn chwareu tôn newydd glysaf a glywodd erioed yn ei ymchwil i gael allan o ba le yr oedd y swn yn dyfod, daethai at agen mewn craig, gan floeddio, a dyna lais o'r graig yn ei ateb—llais o enau y Pibydd, yr hwn a adroddodd i'r bugail yr holl helynt a fu arnynt, gan chwanegu na chaent byth mwy ddyfod i rodio gwyneb daear. Yr oedd y bugail yn gerddor da ac efe a ddysgodd y dôn, ac a'i galwodd yn

"Ffarwel Dic y Pibydd;" a'r man y clywodd y gerddoriaeth yn "Fraich-y-Bib." Bugail arall hefyd, tra yn gwylio'r praidd yn y mynydd,. a glywai sain corn yn chwareu ton newydd, ond gan nad oedd efe yn gerddor, ni allai ei dysgu, eithr efe a alwodd y fan yn yn "Fraich-y-Cornor.' Y Crythor, yn ol y chwedl, a allodd ryw fodd neu gilydd, ddyfod allan drwy ogof yn nghwr gogleddol Moel Hebog, eithr ni allodd ymlwybro ddim.