Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a byddai yn dyfod allan i gyflawni ei ladradau wedi i'r nos daflu ei mantell dros y wlad. Gan fod ei ddull o fyw yn wyllt, tyfodd cnwd o flew drosto fel eidion, ac yr oedd yn ddychrynllyd yr olwg arno. Buwyd am hir amser yn methu yn deg a dyfod o hyd i'w guddle; ond pa fodd bynag, un diwrnod oer ac eiraog, daeth at dŷ o'r enw Ty'n'rowallt, a phan oedd yn ceisio ymwthio i mewn drwy'r ffenestr, cipiodd gwraig y ty fwyall a thorodd ei law ymaith â hi. Ar hyn efe a ddiangodd; ond yr oedd ol y gwaed ar yr eira yn dangos ei lwybr, ac felly yn arwain tua'i guddfan, a dyna y ffordd y deuwyd o hyd i'w ogof. Wedi darogan llawer, ac i dalm o amser fyned heibio, penderfynwyd ceisio ei ddal. Cynlluniwyd i groni yr afon, yr hon nad oedd ond ychydig rhyngddi a bod yn gydwastad â gwaelod yr ogof, yr hyn a fyddai yn sicr o'i dynu allan, neu ynte ei foddi yn ei ffau; ond pan ddechreuodd y dwfr lenwi ei ogof, dyma ef allan, ac ymaith ag ef dros lechwedd y Lliwedd fel milgi, ac ofer oedd anelu bwa ato, oblegyd ni thyciai y saethau er eu cyflymed, i'w orddiwes, ac ni chlywyd gair o'i hanes am hir amser ar ol hyn. Ond un boreu, yn mhen "hir a hwyr," caed achlust ei fod yn byw yn ymyl Maen Du'r Arddu, mewn agen yn y graig, ac aed yno i'w hela; ond cyn braidd glywed eu trwst yn neshau ato, cymmerodd y goes, a thros y Wyddfa, ac i lawr drwy Gwmllan, a thros Flaen Nanmor, i ogof arall, sydd eto i'w gweled wrth ochr y Cnicht. Pa hyd y bu yno, ni ddywedir; ond byth ar ol hyn, cafodd lonyddwch, ac nis gwyr neb pa bryd y bu farw."

XXII. PENYCHAIN.

Saif y llecyn hwn yn mhlwyf Abererch. Gellir cael mwy nag un ystyr, yn ol teithi tarddystyrol i'r enw, ond dichon mai ystyr arall y sy gywir, sef,