Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/228

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wraig o'r enw Elizabeth Williams yn dywedyd, yr hon a anwyd yn Mhlas y Nant, ac yn cofio am Ema, Aeres y Caerau, yr hon oedd ferch i'r diweddaraf o'r Rowlands o'r Nant. Yr oedd Elizabeth Williams yn 80 oed er's hanner can' mlynedd yn ol pan y cadarnhaodd chwedl Plas y Nant wrthyf fi, Owen Williams, Waunfawr, yn 70 oed, 1860, er Ionawr. Anhawdd cael traddodiad cywirach."

XXIV. PONT ABERGLASLYN.

Ychydig os neb o drigolion ardal Beddgelert, hanner can' mlynedd yn ol, oedd yn amheu nad y diafol a adeiladodd ran o Bont Aberglaslyn. O ba le y daeth i gyssylltu ei enw â nifer mor fawr o hynafiaethau ein gwlad, nis gwyddom. Gallwn feddwl, heblaw y drwg a wnelai, ei fod gynt yn cyflawni llawer gwasanaeth da, gan yr arferai ymwneyd cymmaint âg adeiladu pontydd, Eglwysi, &c. Ond chwareu teg iddo, fe gyssylltir ei enw yn aml, yn lled ddiachos, âg enwau lleoedd neu wrthddrychau.

XXV. SAETHON.

Gyda golwg ar ystyr yr enw Saethon, yn mhlwyf Llanfihangel Bachellaeth, y mae chwedl i'r perwyl a ganlyn yn cael ei chofnodi, sef, mai prynu y tir a wnaed ar y cyntaf am saith oen, ac yna adeiladu ty arno a'i alw yn Saith Oen, ond i'r enw yn nhreigl amser gael ei lygru i Saethon. I gywiro annghywirdeb y chwedl i Saith Oen gael ei lygru yn Saethon, y gwirionedd yw mai y Saethon a lygrir yn y Saith Oen, oblegyd heliwr dewr drwy saethu oedd Saethon—on yn olddawd i Saeth, i'w wneyd yn Saethon, fel y gwna on yn olddawd i wr yn Wron.