XXVI. TRAETH Y LAFAN.
Dyna enw y Traeth ag sydd yn cyrhaedd o Fangor hyd Lanfair Fechan. Dywed traddodiad mai Traeth Cyflafan, Traeth Llefain, neu Draeth Wylofain yw ystyr yr enw, oddiwrth alaethgri y trigolion pan orlifwyd eu tir tua diwedd y bummed neu ddechreu y chwechfed oes, yn nghylch yr adeg y bu amrywiol ddirgynhyrfiadau ar hyd arfordiroedd Prydain. Dywedir fod y tir a orllifwyd yma yn nghylch pedair milldir bob ffordd, ac y gwelir yn amser trai, amryw furddynod ar hydddo, ac y gellid yn ddiweddar ganfod hen ffordd yn cyfeirio o Ynys Seiriol tua Phenmaen Mawr. Nodir mewn rhai ysgrifeniadau mai Tyno, neu Ddyffryndir Helig ap Glanog, oedd hen enw Traeth y Lafan; gelwid ef hefyd Maes glasog. Os ydym i goelio y chwedl, yr oedd Helig ap Glanog yn ddiareb yn y fro am ei anuwioldeb; gormesai pawb a allai, gan chwanegu ei etifeddiaeth ar draul ysbeilio y diamddiffyn o'u eiddo; ond gwaedd y trueiniaid a gyrhaeddodd y nefoedd. Ar frig hwyr, fel yr oedd y pendefig allan yn rhodio wrth ei bleser ar ei diroedd llydain, aflonyddwyd ar ei heddwch gan lais yn yr awyr yn dywedyd yn groew, "Daw dial! Daw dial! Daw dial!" Yr hyn a barodd iddo gyfranogi o deimlad y brenin a welsai y darn llaw yn ysgrifenu ar galchiad y pared. Clywodd yr un lleferydd lawer gwaith; ond yn hytrach nag edifarhau am ei bechod, ac adfer yr eiddo i'w iawn berchenogion, ymhyfhaodd yn ei ddrygioni; a thrwy fynych glywed y llais awyrol, daeth yn ddigon beiddgar i ofyn, "Pa bryd y daw?" Pan ei hatebwyd, "Yn amser dy blant, dy wyrion, a'th esgynyddion." Ar y dybiaeth y caffai ef ddiweddu ei oes mewn tawelwch yn gyntaf, ymroddodd yn fwy nag erioed i'w hen bleserau pechadurus; ac ar noson gwledd a rhialtwch