Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

llechweddol i'r garw, unigol, gwyllt, a dim braidd. yn tori ar eu distawrwydd ond brêf y ddafad a rhu y gwynt. Ac O! y mae hyfrydwch yn deimladwy pan edrychir i waered i'r cymoedd, a chanfod yr afonydd, a roddant enw i bob gwahanol ddyffryn, yn dolenu eu haraf—ddyfroedd mewn amdroadau sarphaidd, megis pe yn hiraethu ymado â'u ceulanau cyffiniol. Sir hynod ramantus ydyw, ac y mae gwedd y trigolion yn profi ei bod yn orlawn o'r awel a Ddyd i afiach hoeniach hwyl."

Er amled neuaddau anian sir Gaernarfon, y mae braidd bob ffynnon berthynol iddi â'i rhinwedd neillduol; pob afon â'i hystori henafol, pob ffrwd â'i chwedl ddyddorol, pob llyn â'i ddigwyddiad galarus, pob mynydd â'i ramant gynhyrfus, pob bryn â'i frwydr neu gylch barddol, pob maes wedi ei gyssegru â gwaed rhyfelwyr, pob ogof ledgudd wedi bod yn noddfa Derwydd neu Dywysog, pob cilfach ddistadl wedi bod yn lloches amddiffynol ac yn gell dawel a chlyd i ryfelwyr, seintiau, dysgawdwyr, a beirdd yr oesau terfysglyd a blin sydd wedi myned heibio yn hanes ein gwlad; a phob ardal ynddi a ymffrostia mewn nifer nid bychan o ellyllon ac ysbrydion, y rhai a berthynant iddynt er dyddiau cyn cof; ac y mae eisiau casglu yn nghyd gymmaint a ellir o honynt: canys trwy gyfrwng hen ystorïau a mân gofion traddodiadol, cofiannol, &c., y gwelir ansawdd yn nghyda chyflwr cymdeithasol, awenyddol, a chrefyddol yr hen oesau. Y mae olrheiniad o'r fath pan yn gyssegredig i arferion a thraddodiadau poblogaidd, o fwy pwys nag yr ymddengys yn debygol ar y cipolwg cyntaf; canys y mae yn dra amlwg, pa faint bynag yw y cyfnewidiadau yn arferion a moesau unrhyw genedl, o wahanol hanfodiad, trosglwyddir rhyw draddodiadau, chwedlau, defodau, a champiau yn dreftadol o genedlaeth i genedlaeth, heb wybodaeth am, na chyfeir-