mawr yn y llys, ar ddydd pen blwydd un o'r hiliogaeth, fel yr oedd y forwyn yn cyrchu chwaneg o'r medd o'r seler, gwelai er ei dychryn y môr yn suo i fewn i'r ty, a mynegodd hyny i'w chariady telynor. Heb golli amser, rhedasant i fyny i'r Penmaenmawr am ddiogelwch, a dilynwyd hwy gan gynnifer o'r teulu ag oedd alluog i ddiangc: er eu mawr alar, gwelent yn ngoleuni y boreu fod Tyno Helig, ei berchenog penwyn, a rhai o'r teulu gydag ef, o dan y tonau. Chwedleuir hefyd, ddarfod i bawb ag oedd yn y llys ddiangc i fynyddoedd Eryri am nodded, a darfod i Helig ap Glanog (yr hwn a goresgynws y môr ei dir), gofleidio buchedd grefyddol; a'r un modd hefyd y gwnaeth ei feibion. Bernir mai yr un amser y torwyd y cyssylltiad hwng Mon ag Arfon—y boddwyd Tref Graianrhyd yn arfordir Clynog Fawr—Cantref y Gwaelod, &c.
XXVII. Y FOEL BACH.
Amaethfa fechan yn mhlwyf Llanfihangel Bachellaeth yw y Foel Bach, yr hon, hyd yn ddiweddar, a berthynai i etifeddiaeth Madryn, a dywedir mai ei hardreth flynyddol am oesoedd oedd cyw gwydd: disgwylid i'r penteulu fyned a'r cyw i Fadryn, o flaen gwyliau y Nadolig.
XXVIII. Y GWYNFRYN.
Hen balasdy ag iddo ei gyssylltiadau hanesyddol yn mhlwyf Llanystumdwy. Credir gan y werin, yn enwedig yr hen bobl, pa bryd bynag yr erddir y "Cae o flaen y drws," y bydd yr etifedd farw y flwyddyn ganlynol.
{{c|XXIX. Y GYMWYNAS.} Saif y llecyn hwn yn mhlwyf Beddgelert. Traddodiad a ddywed mai drwy i Awdwr Natur wneyd y Bwlch y galwyd y lle yn Gymwynas, drwy