ond pur ychydig o sylw oedd y gwr dieithr yn ei wneyd o ddim a ddywedid ganddynt, ac ymddangosai fel pe buasai rhywbeth pwysig ar ei feddwl; o'r diwedd aeth yn adeg myned i orphwys, ond cyn myned erfyniodd y dieithrddyn am gael dweyd ei neges, "oblegid heb hyny," meddai, "nis gallaf gysgu munud yn fy ngwely." Caniatawyd ei gais yn rhwydd, ac yntau a ddywedodd mai gwr o Fon oedd efe, a'i fod yn cael ei flino fyth a hefyd gan freuddwydion yn nghylch rhyw drysorau gwerthfawr oedd yn nghudd mewn rhyw hen furddyn. "Yn fy mreuddwyd," meddai, "gwelwn hen wr bychan yn dod ataf, gan erfyn yn daer arnaf ddod gydag ef at yr hen furddyn, y cawn i a'm tylwyth ddigon o fodd i fyw os y deuwn." Gofynwyd iddo a wyddai yn mha le yr oedd y murddyn, a pha enw oedd arno; atebai yntau y gwyddai—fod yr hen wr a welsai efe yn ei freuddwyd wedi dweyd mai Hafod Ernallt oedd enw y murddyn, a'i fod ar dir Meillionen, ac fod y trysor dan gareg mewn rhyw gornel neillduol o hono. Gofynodd un o'r hen langciau iddo a allai efe adnabod y lle pe dangosid ef iddo.
"O gallaf yn sicr," meddai yntau. "Y mae yn dda genyf hyny," meddai yr hen langc, "oblegyd nid ydwyf yn gwybod am furddyn o'r enw yna ar y tyddyn yma, ond gwn am furddyn tebyg i'ch darluniad ar fferm o'r enw Meillionen, yn mhlwyf Ceidio yn Lleyn. Ai tybed eich bod wedi camgymmeryd y ddau le?" Taflodd hyn y gwr o Fon i gryn benbleth, a chydsyniodd y gallai ei fod wedi camgymmeryd. Boreu dranoeth cyn caniad y ceiliog, cyfododd yr hen langciau a chyfarwyddasant y gwr dieithr i fyned tua Lleyn, ac aethant hwythau eu dau i'r hen furddyn, ac wedi chwilio ychydig daethant o hyd i gareg, ac o dani caed y trysor, fel y dywedwyd. Yn mhen deuddydd neu dri dychwelodd y breuddwydiwr o Leyn, wedi ffaelu