iad at eu dechreuad, eithr yn unig megis achos o arfer eu cyfleu. Nid hawdd ateb am y fath ymlyniad cildynus a chyffredin wrth amryw o honynt, oddieithr ini ddychymygu iddynt gael eu har— graffu ar feddyliau y bobl, pan eu hiawndrefnwyd yn Gymdeithas reolaidd gyda ffurf sefydledig o grefydd a llywodraeth. Rhaid priodoli ereill i oesau diweddarach, a rhai yn ddiamheu i weddill anmherffaith chwedloniaeth ddyrus ac aneglur. Ond pa fodd y mae llawer o honynt yn cael eu meithrin cyhyd, a'u cynnal mor ddiball, nid hawdd yw ateb hyny chwaith, er y gellir meddwl fod gan famau law fawr yn y gorchwyl, drwy droi meddyliau y rhai bychain yn eu mabandod wrth adrodd chwedlau i'w difyru neu eu brawychu; a'r ystorïau hyny yn cael y fath argraff ar eu meddyliau tyner, fel nas gall na rheswm na phrofiad ddileu yr unrhyw oddiyno tra byddont yn y byd. Y mae plant yn ddiarebol am eu chwilfrydedd, am ofyn cwestiynau. Y maent yn holi yn galed ac yn onest, oddiar syched naturiol meddwl newydd am wybod y gwirionedd am ffeithiau fydd o'u hamgylch. Nid ydynt yn holi neb er mwyn ei ddyrysu; ond ei holi yn onest er mwyn gwybod. Y mae plant hefyd yr un mor hynod am eu parodrwydd i gredu y gwirionedd ag am eu syched am wybod y gwirionedd. Credent bob peth, yn enwedig ar dystiolaeth eu rhieni—yr hen yn eu traddodi i'r ieuanc fel hen grair y llwyth; a'r ieuanc hwnw drachefn, yn ei dro, yn eu cyflwyno i'w olynwyr yntau; a'r addurniadau yn nhreigliad amser fel yn cynnyddu—y manylion hwyrach yn newid y teg yn myned yn decach, a'r anferth yn fwy anferthol. Wrth gwrs, y mae hynafiaeth, bob amser, yn ardderchogi, yn dyrchafu, a mawrhau yn ein dychymmyg amgylchiadau a phersonau. Dynion y dyddiau gynt! Y maent yn gawri yn ein tybiaeth ni. Yr oedd corachod yr hen amseroedd yn fwy na'n cawri ni. Pob peth gynt
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/24
Gwedd