rhyddion a welir ar gopa y lle, a alwyd o herwydd hyny ar ei enw yn "Garnedd Igyn," yr hon sydd ar lechwedd Eryri, a'i phen yn 2,975 o droedfeddi uwch lefel y môr. Bu hefyd gawres yn yr un gymmydogaeth, nad oedd Marged Uch Ifan, a Chadi'r Cwmglas, yn werth son am danynt yn ei hymyl. Y mae ol un troed iddi i'w weled yn mhen 'Llechi Llyfnion,' ar yr ochr ddeheuol i Lyn Peris, ac ol y troed arall ar ben Careg Noddyn,' yr ochr ogleddol i'r llyn; a dywed traddodiad y byddai yn dyfod i'r lle hwnw i ymolchi, ac wrth wneyd hyny y byddai yn rhoddi ei thraed un o bob tu i'r llyn, yr hwn yn y llecyn hwnw sy dros hanner milltir o led. Yn agos i Ben Pass, gellir gweled pentwr lled fawr o geryg gwynion, y rhai y dywedir iddynt gael eu casglu, gan y gawres: hon, yn y Marion, yn agos i'r Cwmglas, ac iddi eu dodi yn ei barclod, gyda'r bwriad o'u cludo i ryw ran o sir Ddinbych, i'w taenu ar feddrod ei phriod, ond pan gyrhaeddodd Ben Pass, fe dorodd llinyn ei barclod, a gollyngodd y cyfan i'r llawr, ac nid aeth byth i'r drafferth o'u casglu, a Barclodiad y Gawres y gelwir hwy hyd heddyw."
Yr oedd cawr nodedig yn byw yn Ninas Emrys, Beddgelert, am yr hwn y ceir y nodiad canlynol yn un o'r hen goflyfrau Cymreig:—" Eurnach hen a fu yn ymladd gledd yn nghledd ag Owain Finddu ap Macsen Wledig yn Ninas. Pharaon, efe a laddodd Owain, Owain a'i lladdodd yntau." Y chwedl oddiar lafar gwlad a gwerin am yr ymgyrch sydd yn debyg i hyn:
Yn yr hen amser, pan oedd cawri yn byw yn Nghymru, yr oedd un hynod iawn o honynt yn Ninas Emrys, a'i glod yn adnabyddus drwy'r holl wlad. gan ei faintioli a'i gryfder, ond ryw ddiwrnod fe ddaeth cawr arall o'r enw Owain, wedi clywed am orchestion cawr y Ddinas, yno i ymryson nerth âg ef: a chymmerodd yr ymgyrch mewn gwrol-gampau le ar faes amaethfa o'r enw