Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/246

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arni, nis gallwn wneyd yn well na rhoddi dyfyniad allan o erthygl a ymddangosodd mewn newyddiadur am Rhagfyr 18, 1857, o eiddo yr hynafiaethydd dysgedig, y diweddar Barch. J. Jones, M.A., Ebrwyad Llanllyfni,—gwr oedd fel Saul, yn uwch o'i ysgwyddau na hanner llenorion ei oes, fel hyn:—"Yn agos i frig yr Eifl ganol, ar yr ochr ddeheuol, y mae ryw bentref, a gyfrifir gan amryw ddysgedigion yr hynaf yn Mrydain, tu draw i ddychymmyg neb i roddi rheswm am gynnifer o anneddau mewn lle mor annghysbell; ac ofni yr wyf finau y bydd fy mhen yn y niwl wrth. geisio olrhain allan i ba ddiben y pentyrwyd hwynt, ac yr amgylchynwyd hwynt â magwyrydd: rhai yn meddwl mai ryw daeogdref oedd yno, tebyg i gytiau'r Gwyddelod: eraill o'r farn mai carn o ladron, yn byw ar yspail, ac yn ymosod liw nos, fel gwylliaid Mawddwy, ar amaethwyr y gwaelodion; pawb yn synfyfyrio arni, heb ddyfod i benderfyniad rhesymol am dani; ac yn wir y mae'r enw Tre'r Cowri yn gwneuthur y peth yn fwy dyryslyd, heb gael rhyw allwedd o lyfrau haneswyr y prif oesoedd i chwilio o amgylch y lle."

Y mae un hanesydd enwog a dysgedig, hyddysg yn hynodion Hyspaen ac Affrica, sef Sallust, wedi sylwi fod ryw dref gyffelyb yn agos i Gades, yn perthyn i amseroedd tywyll y cyfnod, pan oedd dinas Carthage yn arglwyddiaethu ar foroedd y Canoldir, ac yn ymestyn o golofnau Hercules hyd at aberoedd Prydain a'r Iwerddon. Crybwyll y mae yn fwy neillduol am ryw nifer o fasnachwyr Carthage yn ceisio sefydlu eu hunain yn gyfagos i'r môr yn Hyspaen, er mwyn gyru yn mlaen eu gorchwylion masnachol gyd â thrigolion yr ardal; a chan nad oedd Tywysog y wlad yn caniatau rhyddid iddynt dori coed i adeiladu tai neu gytiau, hwy a drosglwyddasant eu cychod drwy nerth braich ac ysgwydd i ben y bryniau mwyaf diogel, a chan osod keel pob un i fyny i