ef am danynt, ac yn enwedig am eu doniau yn ymdrin â'r byd naturiol a chrefyddol. Strabo a ddywed yn bendant, mai y ddefod o eillio neu o gneifio eu penau mewn dull coronog oedd ystyr y gair cowri: ac eto ymddengys fod enw arall yn ei nodweddu mewn oes tra foreuol, sef Idoi Dactili, neu Decemyiri, ar gyfer fod rhyw Senedd ganddynt, yn cynnwys aelodau o nifer y bysedd llaw, i ymgynghori ar faterion o bwys neillduol."
Yn yr hen chwedlau a'r traddodiadau deuir yn fynych ar draws crybwyllion am gawri, yn wryw a benyw. Yr oedd yr enw cawr yn yr hen oesau yn cael ei ystyried ar ddynion rhyfeddol mewn maintioli. Priodolid iddynt gryfder a chorffolaeth mwy o lawer na'r cyffredin. Yr oeddynt yn gyflym, megis y dywedir am yr haul, ei fod yn ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa. Cawri oeddynt ryfelwyr mawr, ac yn fynych iawn yn orchfygwyr. Cyfarfyddwn weithiau â ffedogaid ambell gawres, megis twr anferth o geryg, yn cael ei alw Barclodiad y Gawres," ac mewn ambell fan o'r wlad "ffon y gawres y gelwir y pren poplys uniondal. Ar lecyn rhamantaidd yn mhlwyf Llanaelhaiarn, y mae yn aros hen olion, o'r enw "Muriau'r Gawres," ac hefyd ar grib Carnguwch, bentwr o geryg, o'r enw "Barclodiad y Gawres." At hyn, gellir chwanegu, yr ymhyfryda traddodiad mewn dangos cromlech ar y Penmaen, ger Pwllheli, ag y priodolir, yn ol rhai, gawr ei thaflu yno o gymmydogaeth Harlech; ond, yn ol ereill, oddiar Fynytho.
Hyd oddeutu 70 mlynedd yn ol, yr oedd crug anferth o fân geryg, o'r enw "Barclodiad y Gawres," ar dyddyn o'r enw Tan-y-ffordd, yn Mynytho, wedi eu gollwng o farclod un o'r hen gawresau, pryd y digwyddodd un boreu i geiliog ganu, ac y gorfu arni ffoi, tra ar ei thaith rhyngddi a'r Foel Gron, lle y bwriadai adeiladu sedd, fel y gallai syllu ar y gwrthddrychau o'i hamgylch