Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fawr. A oeddynt felly mewn gwirionedd? Nid dyna'r pwnc. Os ydynt yn ymddangos felly i ni, dyna ddigon. Ni wiw tori allan o dir y cyfrinion traddodiadol i dir sylweddol hanesyddiaeth: bro ffrwythlawn i fardd yw bro y cyfrinion a'r breuddwydion, ac nid da tynu yn rhy agos at ddiweddarwch eglur a di dawch yr oes y sy newydd fod o'n blaen, am y gŵyr pawb ormod am dani, fel na all darfelydd neu ddychymmyg gael rhyddid i ddyweyd dim am dani heb fod hanesiaeth yn gwaeddi yn barhaus, "Arafa! nid wyt ti iawn fan yna. Nid fel yna y bu hi," &c.

Diweddar mewn cymhariaeth yw hanesyddiaeth pob cenedl. Dylid o herwydd hyny, edrych ar y traddodiadau a'r chwedlau, nid fel ffeithiau hanesyddol i'w derbyn a'u credu yn mhellach nag y bydd hanesyddiaeth gredadwy yn sicrhau hyny, ond yn hytrach er dangos arferion, defodau, a bywyd yr oesau ag y maent yn perthyn iddynt. Ar yr olwg hon y maent yn dystion mwy gwerthfawr yn fynych na dim arall, oblegid yr oeddynt yn cael eu teimlo yn ddadwisgiad eu meddwl, ac yn ddangoseg ffyddlawn o deithi yr hynafiaid. Wrth chwilio i mewn iddynt, y mae yn ddyledswydd ar yr ymchwiliwr fod yn fanwl a gochelgar, oblegid y mae dau berygl ar ei ffordd—ar un llaw, dichon y cred rhy fach, gan ymwrthod a'r ffeithiau o herwydd y traddodiadau; ar y llaw arall, dichon iddo gredu gormod, a thrwy hyny gymmeryd y traddodiadau yn lle'r ffeithiau. Nid yw yr hanesydd bob amser yn ei ymchwiliadau, yn cyfarfod â'r cymmeriadau goreu; ond, er hyny, ei ddyledswydd ef ydyw syllu ar bob peth fyddo yn perchen teilyngdod digonol i drosglwyddo ei enw a'i hanes i'r oesau dyfodol. Y mae'r llysieuwr yn fynych yn cyfarfod â llysiau gwenwynllyd, y rhai feddant, er hyny, lawer o swyn, prydferthwch, a defnyddioldeb. Yr un fath yw Llên Gwerin,—nid niwliog ydynt i gyd, ond y maent