Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/253

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X.
GWYLIAU, DEFODAU, AC ARFERION.

"Pob gwlad yn ei harfer."

Y MAE yn deilwng o sylw mai wrth y nosweithiau y byddai yr hen bobl yn cyfrif cyfnodau amser, nid wrth rifo pa sawl dydd, ond pa sawl nos, fel y dengys y geiriau a'r ymadroddion "wythnos," "wythnos o ddyddiau"; pythefnos (pymthegnos). Felly yr oedd eu pythefnos hwy yn llai na dwy wythnos—unarbymtheg—nos. Mae'n dra thebygol i'r arferiad hwn ddeilliaw oddiwrth mai ar nosweithiau y byddent arferol o drin a throsi bron bob achosion, a bod yn haws cyfrif wrth flynyddoedd y lleuad. Sylwent ar ddyddiau genedigaeth, a dechreu'r mis a'r flwyddyn, yn y cyfryw fodd, fel y mae'r dydd yn canlyn y nos.

Yr oedd yn nghalendar y werin lawer o bethau gwerth sylw. Yr oedd y tair gwyl arbenig o eiddo yr Eglwys ynddo, y Nadolig, y Pasg, a'r Sulgwyn. Yr oedd ynddo hefyd wyliau ereill na chlywir mo'u henwau ond mewn cyssylltiad â rhyw fater calendaraidd. Yr oedd ganddynt eu Gwyl Fair, eu Gwyl Ifan, Gwyl y Grog. Dywedent hefyd Ffair Farc, Ffair Fathew. Ffair wyl Fihangel, &c. Yr oedd Dygwyl Domos ganddynt, a Dygwyl Styphaint (St. Stephan). Ond yr oedd eu calendar yn benaf yn troi ar wahanol dymmorau'r flwyddyn, megis, Bu farw hwn a hwn wythnos o haf. Bu farw hon a hon wythnos o'r gauaf, a digwyddodd y peth a'r peth yn y cynhauaf gwair, a'r peth a'r peth yn y cynhauaf ŷd. Ni byddent un amser yn son dim nac yn gofalu