Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn cynnwys gwirioneddau a chynorthwyon gwerthfawr i'r hanesydd. Ni ddaw nemawr niwed o'u casglu, oblegid coelion marw ydyw llawer o honynt, wedi ffosyleiddio, ac nis gallant wenwyno na niweidio neb; a buddiol yw eu casglu, a'u cofnodi, a'u trosglwyddo i'r oesau a ddêl, fel rhan bwysig o hanes y meddwl a chreadigaethau y dychymmyg. Y mae tymor yn hanes pob cenedl pryd nad oes dim ond chwedlau yn perthyn iddynt. Y chwedlau hyn am wroniaid dychymmygol, a lonent bob cymdeithas a graddau, a drosglwyddid i waered o dad i fab, ac a greent ac a feithrinent yr un ysbryd arwraidd yn yr ieuengctyd. Wedi hyny, cymmerai y beirdd afael arnynt, gan eu ffurfio yn destynau eu hodlau, a'u datganu gyda'r delyn, &c., yn y llysoedd ac ar hyd a iled y gwledydd, a thrwy hyny eu cyflwyno yn feddiant etifeddol i'r oesau canlynol, ychydig o'r rhai a ddisgynasant i'n hoes ni.

Os ydym am gael golwg gywir a chyflawn ar fywyd cymdeithasol neu fywyd ymarferol a chymmeriad cyffredinol cenedl, y mae yn rhaid ini ymwneyd â'u llên gwerin. Yn y cysgodau, yn yr encilion, y mae cael gafael ar nodweddion yr oesau. Ar wyl mabsant neu yn mantell y simdde ar nosweithiau hirnos gauaf, neu yn nghysgod llwyni a swn adar, lle y ceffid y werin yn nistawrwydd y cymoedd yn rhoddi ffrwd idd eu teimladau naturiol a syml, mewn caneuon, emynau, chwareuon, &c. Yn yr encilion hyn y mae i ni gael gafael ar nodweddion ac arferion ein hynafiaidmewn manau gwledig, llonydd, a thawel, lle mae hen arferion yn llercian a glynu am oesoedd ar ol i'r rheswm drostynt syrthio i ebargofiant.

Nid oedd genedl dan haul, fe allai, yn darllen mwy yn yr Ysgrythyrau nâ'r Cymry yn nechreu y ganrif o'r blaen, eto yr oeddynt yn hynod o ofergoelus; ond nid mwy felly na chenedloedd ereill dan gyffelyb amgylchiadau, sef eu bod yn cyf-