Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bloeddiadau, ac yna deisyfent ei rodd. Weithiau, byddai hanner dwsin neu ddwsin o fenywod yn uno i ymosod ar bwy bynag ddelai heibio. Os buasai gwrthwynebiad gan y dyn, amgylchid ef gan y menywod, nes ei orfodi i roi i fewn. Yr oedd yn rhaid iddo hefyd osod ei law yn ei logell, ac ni byddai heddwch nes gwnelai. Os parhäai yn ystyfnig, amddifadid ef o rywbeth nes cael ufudddod. Y nos, deuai y menywod hyn yn nghyd gyda'u gwŷr a'u cydnabod, i yfed a dawnsio, nes gwario'r holl ennill. Mae tarddiad y ddefod yn anwybyddus, ond tybid ei bod yn dynodi cyfodiad pob peth tyfiannol i fyny o'r ddaear, a bod cyssylltiad rhyngddi â'r adgyfodiad.

Yr oedd amryw arferiadau ereill yn gyffredin, megis troedio pêl ddu (pêl droed), ac nid anfynych y gwelid llawer o drigolion dau blwyf yn ymgyfarfod yn y chwareu hwn, a dibenai y gamp weithiau mewn brwydr gyffredinol rhyngddynt, a'r ffyliaid a gaffent amser i edifarhau am eu hynfydrwydd tra fyddai eu haelodau anafus a'u penau clwyfedig yn gwella.

Arferiad arall y diwrnod yma oedd saethu at nôd, am ryw wobr bychan, ond yr oedd y clod of ennill yn fwy yn eu golwg na gwerth y wobr. Ymddengys i'r cyfryw arferiad ddechreu pan oedd y Cymry yn defnyddio bwäau a saethau yn eu rhyfeloedd; a diben ei sefydliad, yn ddiammheu, oedd i'w gwneyd yn fedrus i ymladd â'u gelynion.

Cedwir dydd y Pasg bob amser y Sul cyntaf wedi y llawn lleuad a syrthio ar neu nesaf ar ol yr unfed dydd ar hugain o Fawrth. Ac os digwydd y llawn lleuad ar ddydd Sul, y Pasg fydd raid fod y Sul canlynol; a'r Sul cyntaf ar ol y Pasg a elwid yn Basg bach, am mai adfynychiad o'r dydd Pasg ydoedd, ond fod gwasanaeth yr Eglwys yn fyrach, neu yn llai, o ran defod, na'r hyn ydoedd ar y Sul o'r blaen.