Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlaen yn y trefi ar draul y corfforiaethau, ac yn y wlad ar draul y plwyfi.

Mewn rhai manau, ffurfiai rhyw ddwsin a hanner o ddynion mewn oed yn gwmni, i fyned o dŷ i dŷ oddeutu tref a gwlad, i ddawnsio yr haf i mewn, gan gardota fel rhai ag "awdurdod" ganddynt! Byddai llwyddiant arianol yr anturiaeth yn dibynu, i raddau helaeth, ar yr "hen Ffwl," a'r "hen Gadi," y rhai ag y byddai coelbren gorchwyliaeth y cardota gwedi syrthio arnynt. Byddai yr "hen Ffwl" wedi ymwisgo yn hynod, yn cario yn un llaw luman cyfrin yr urdd, yn orchuddiedig oll âg arwyddluniau yr haf, ac yn y llaw arall yn cario cwpan bren hirgoes i ddal yr offrwm! Yr oedd yr "hen Gadi " wedi hyny yn hynod ddigrifol mewn gwisg hen wraig, ag ysgub yn ei llaw—i gadw y llawr yn lân i'r cwmni ddawnsio arno, ac i gadw yr edrychwyr draw, ac yn benaf oll i fygwth arian o logellau pawb ddelai i gyffyrddiad â hi; a gwae y sawl a droai glust fyddar ati! Er mai yr adeg i godi y Fedwen, a elwid hefyd yn "gangen haf," &c., ydoedd y cyntaf o Fai, tynid llawer o arferion ereill i mewn i gylch y diwrnod, megis rhedeg gyrfeydd, ymaflyd codwm, taflu maen a throsol, tynu copstol neu dorch, sef eistedd ar y llawr â gwadnau eu traed at eu gilydd, ac ymaflyd â'u dwylaw mewn pren cryf,—coes pigfforch, neu rywbeth, a thynu nes codi y gwanaf oddiwrth y llawr. Wedi y delai yn nos, cynneuid coelcerthi ar gribau y mynyddoedd, fel ar y cyntaf o Dachwedd; a byddai amryw fathau o ddiodydd yn cael eu rhanu, megis Cwrw Gwahodd, &c. Yr oedd yr hen bobl yn deall y pwngc hwn i'r dim—Calan Mai yr oeddynt yn myned yn llawen gyda'u gilydd i'r mynyddoedd, ac yn byw yno yn yr Hafottai ar hyd yr haf; ond Calan Gauaf yr oeddynt yn gofalu am gael y praidd a hwythau i'r dyffrynoedd. Yn agos i'r mynyddau, cedwid lliosogrwydd, bron yn mhob tŷ, o gŵn-milgast