Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dri neu bedwar o'r gloch, dan y boen o gael eu llusgo o'u gwelyau, a'u gosod yn y cyffion, gan eu cyfeillion. Yn wythnos y Sulgwyn yr oedd yn arferiad i gael oen, a nifer o ferched wedi cylymu eu dwylaw wrth eu cefnau, a phwy bynag o honynt a ddaliai yr oen â'i dannedd oedd yn cael ei galw yn Frenines yr Oen. Ar ol hyn yr oeddynt yn gwledda ar yr oen; ac yr oeddynt yn galw y cwrw a yfid yn Gwrw Oen.

Y mae y Sulgwyn, hyd eto, yn parhau i fod yn ŵyl o gryn bwys ac enwogrwydd, ac yn un ag a gedwir yn mron gan bawb drwy y wladwriaeth. Edrychir tuag ati gan y dosbarthiadau canolradd adeg yn yr hwn y cânt ail brofi llawer o hen fwynderau, ac y cânt ymryddhau am ychydig oddiwrth y byd a thwrf byddarol ei fasnach.

Dygwyl Gewydd.—Dywediad cyffredin oddiar yr hen oesoedd ydyw, "Os bydd yn gwlawio ar y 15fed o Orphenaf, sef gŵyl Sant Cewydd, y bydd yn sicr o wlawio mwy neu lai bob dydd dros ddeugain niwrnod wedi hyny. Credir y dywediad gan lawer mor ddiysgog ag y credant yn modoldeb canwyllau cyrff, a holl ystrangciau swyddgar ysbrydion anghladdau, &c. Y mae Cewydd ap Caw, y sant Cymreig ag oedd yn ei flodau yn gynnar yn y chweched ganrif, wedi colli oddiar lafar gwlad a gwerin, a Swithin, sant y gwlaw, perthynol i'r Saeson, wedi ymlithro yn araf i'w le, dydd gŵyl, yr hwn a ddigwydd, yr un fath a Gwyl Gewydd, ar y pymthegfed o Orphenaf; ac felly y mae Gwyl Gewydd y Cymry gynt, a Gwyl Swithin y Saeson, yn ogystal â Chymry yr oes hon, yn cyfateb yn hollol i'w gilydd, o ran eu hamser, ac o ran eu canlyniadau. Diau fod rhyw reswm boddhaol gan yr hen bobl am gyssylltu deugain niwrnod o wlaw a Dydd Gwyl Gewydd; ond y mae y rheswm am hyny yn hollol dywyll i ni. Llên y werin ar y pwngc yw, mai ar y 15fed o Orphenaf y dechreuodd dwfr y dylif ddisgyn ar y ddaear, a bod gwlaw