aneddu mewn gwlad fynyddig annghysbell, lle nad oedd nemawr o fasnach rhyngddynt â'r byd gwybodus, i loewi eu meddyliau. Naturiol, gan hyny, eu bod yn rhwym, ben a thraed, wrth hen dybiadau ofergoelus; megis chwedlau perthynol i ellyllon, rhithion, &c., canys unwaith nid oedd na hen furddyn, pedair croesffordd, mynwent, nac unrhyw le o neillduedd, heb fod mor llawn o honynt â'r allt o adar; a haws oedd gan y werin gredu mewn ymyriad a chymorth ysbrydion ac ellyllon o'r fath, nag yn ngallu a dyfalbarhad rhai o'u cyd—ddynion. Os gwelid mur yn cynnwys ceryg nodedig o fawr, neu bont wedi ei hadeiladu yn hynod o fedrus, neu brif eglwys yn rhagori mewn prydferthwch; nid ymfoddlonai y werin heb briodoli y gwaith i allu ysbrydion. Yr oeddynt yn credu mewn daroganau, ac yn ofni dewiniaid yn fwy nag ofni Lluniwr y bydoedd yn ofni gweled llyffant du—yn ofni gweled brân ddu—yn ofni gweled malwoden ddu—yn ofni gweled oen bach a'i gynffon atynt, ac yn ofni clywed y gôg yn canu y waith gyntaf heb arian gyda hwy—yn ofni creaduriaid ac ymlusgiaid diniwaid, ac yn diystyru Crëwr y bydoedd. Po lleiaf eu deall a'u gwybodaeth, mwyaf oll eu hainc a'u hawydd i wrando chwedlau annghyffredin ac anhygoel. Y mae yn wir fod genym lawer o hanesion o'r fath wedi eu cofnodi gan amryw o'r hen awdwyr henafol, gweithiau y rhai a dderbynir yn awdurdodau mewn ystyr gyffredinol, ond a wrthodir felly mewn ystyr neillduol. Y mae delw eu hoes ar y naill a'r llall o honynt, ac y maent wedi syrthio i'r amryfusedd mawr o groniclo y chwedlonol, yn gystal a'r ffeithiau. Felly ein dyledswydd wrth eu darllen ydyw eu pwyso yn nghlorian beirniadaeth ; ac os cawn hwy yn dal felly, gellir eu derbyn. Arwydd o wendid yw credu y cwbl a nodir, hyd y nod gan yr haneswyr penaf, am yr unig reswm eu bod hwy yn eu cofnodi, heb yn gyntaf chwilio
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/27
Gwedd