y seintiau crybwylledig yn parhau am ddeugain niwrnod, oblegyd mai am yr ysbaid hyny o amser y parhaodd dwfr y dylif, yn unol â Gen. vii. 12. Y 15fed dydd o Orphenaf, yn ol yr hen gvfrif, y dechreuai wlawio, y 27ain yn ol y cyfrif newydd; felly, nid yw ein cyfrif ni o'r dydd yn gywir. Dichon mai y golygiad cywiraf ar y mater yw, wedi cael gwanwyn sych, y tebygolrwydd yw y ceir tywydd gwlawog ar ol canol mis Gorphenaf. Os bydd y gwanwyn yn wlyb, y tebygolrwydd yw y ceir tywydd sych o ganol Gorphenaf allan. Y gwirionedd yw, nad oes y rheswm gwanaf dros gredu'r chwedlau yn nghylch gwyl seintiau y gwlaw, fel y cafwyd prawf lawer blwyddyn ar ol hyny. Y mae yn hen ddywediad hefyd mai Dyddiau'r Cwn, y rhai sy'n dechreu y 4ydd o Orphenaf. yw y dyddiau y llosgwyd Sodom a Gomorrah; a chan fod y rhai hyny hefyd yn parhau am ddeugain niwrnod, digon tebyg i draddodiad rywbryd fod ddarfod i fŵg dinasoedd y gwastadedd barhau i ddyrchafu " fel mŵg ffwrn" am gynnifer a hyny o ddyddiau. Hen almanac am y flwyddyn 1776, a ddywed am y cyfryw ddyddiau fel hyn:—"Yr achos o ddyddiau'r cŵn, ag sydd wedi cymmeryd yr enw felly oddiwrth un o'r ser sefydlog, yr hon a elwir yn Saesoneg Dog's Star; a'r pryd y mae ei heffeithiolaeth fwyaf ar ein Daear ni yw, pan fyddo yn codi ac yn machludo i ganlyn yr haul; ac yn achos o fod y dyddiau hyny yn fwll a brwd, ac afiach, yn fwy cyffredin nag amseroedd ereill. A'r amser o'i bod yn canlyn yr haul, yw o Orphenaf 30ain hyd y 7fed dydd o fis Medi."
Gwyl Awst, neu Wledd Awst.—Cynnelid yr ŵyl yma ar ddiwedd y mis, i ddathlu diogeliad blaenffrwyth y ddaear, efallai. Gwyl lawen, ddigrif, a haelionus ydoedd hon.
Calan Gauaf.—Yn eglwysig, Gwyl yr holl Saint y gelwir y dydd hwn; i'r ŵyl hon, tebygol, y perthynai yr hen ddefod o "ranu bara ddydd Calan