Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/275

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi hyn, rhedid am y cyntaf, mewn ofn a braw, am ddiogelwch, rhag syrthio yn anrhaith i'r "Hwch Ddu Gwta."

Tebyg mai ychydig sydd yn gwybod am y tanau a gynneuid ar rai manau o barch i'r duw Beli neu Baal. Cynneuid hwy ar y cyntaf o Fai, a golygid eu bod yn gofyn ei amddiffyniad ef i'r dâ. Diau fod llawer o ddefodau eto yn aros, a'u hystyr wedi myned i golli, ag ydynt yn naturiol yn cyssylltu â choffadwriaeth y cyfryw dduw. Heblaw y tanau a nodasid, cynneuid llawer ar garneddau i rybuddio cymmydogaethau o ddynesiad gelynion yn yr hen amser. Dyna oedd telegraph yr oesau hyny. Cynneuid tanau ar y banau mwyaf amlwg. Defnyddid penau'r clochdai i'r perwyl, a dodid padell fawr ar ben ambell glochdy i losgi pyg (pitch) ynddi i'r pwrpas.

Eto, i sylwi yn helaethach ar y crybwylliad rhagflaenol yn nghylch yr "Hwch Ddu Gwta," gellir cynnyg y tybiau canlynol:—Rhai a resant y cyfryw yn rhywogaeth y "Gath Balug," ag oedd yn adnabyddus gan yr hen Gymry; ond yr hyn a grybwyllir am y fath greadur sydd mor dywyll, fel mai braidd y gellir gwybod dim i sicrwydd yn ei gylch. "Crybwyllir, yn y Trioedd Cymreig, am berson a elwir Coll ab Collfrewi, yr hwn a resir gyda Hu Gadarn ac Illtyd, fel y tri a gyflwynasant fendithion goruchel i genedl y Cymry. Coll a ennillodd yr anrhydedd hwn trwy ei waith yn dwyn gwenith a haidd i'r ynys, tra nad oedd yma o'r blaen ond rhyg a cheirch. Y digwyddiad hwn a roddir, yn un arall o'r Trioedd, mewn modd dammegol, lle y gosodir Coll, Trystan, a Phryderi, allan fel tri meichiad gryfion Ynys Prydain. Yn hon, gosodir Coll allan fel yn gofalu am hwch Dallbaran Dalben, yr hon a ddaeth ar ei thaith i Benrhyn Penwedig yn Ngherniw, ac yna aeth allan i'r môr; a lle y daeth i dir drachefn oedd Aber Tarogi yn Ngwent, a Choll yn gafaelu yn ei