Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/276

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrych lle bynag yr elai, pa un ai ar dir ai ar fôr. Yn Maes-y-gwenith, yn Ngwent, yr hwch a adawodd dri gronyn o wenith a thair gwenynen, a bu Gwent yn enwog fyth wedi hyny am wenith a mêl. O Went hi a aeth i Ddyfed, lle y gadawodd ronyn o haidd a phorchell, ac o'r amser hwnw y mae Dyfed wedi rhagori am ei haidd a'i moch. Wedi hyny, yr hwch aeth i fyny tuag Arfon, ac yn Lleyn hi a adawodd ronyn o ryg, yr hwn a wnaeth Leyn ac Eifionydd yn enwog am ryg fyth ar ol hyny; ac ar ochr rhiw y Gyferthwch hi a adawodd genaw blaidd a chyw eryr. Coll a roddodd y cyw eryr i Brynach y Gwyddel o Ddinas Ffaraon, a'r blaidd a roddodd efe i Menwaed o Arllechwedd; a llawer ynt y chwedlau a adroddir am Eryr Brynach a Blaidd Menwaed. Yna yr hwch a aeth rhag ei blaen i'r Graig Ddu yn Arfon, lle y gadawodd gath ieuangc, yr hon a daflwyd gan Coll i'r Fenai, lle y cafwyd hi gan ddyn o Fôn, yr hwn a'i dygodd adref, ac a'i magodd; eithr pan dyfodd i'w maintioli, aeth yn hynod ffyrnig, a dechreuodd ladd a llarpio y dynion a'r anifeiliaid, am ba herwydd cafodd ei rhesu yn un o'r Trioedd fel un o dri aflonyddwch Mona, a fagesid ynddi, dan yr enw "Cath Balug." Yn yr hanes hynod hwn, ymddengys yr ymdrechir gosod allan ryw hen goffadwriaeth am ymddangosiad llong ddieithr, fe allai o Phenisia, ar ororau Prydain Fawr, yr hon a ddygodd i'r ynys y gwahanol bethau a ddarlunir yn flaenorol; a dywedir fod yr un gair yn cael ei arfer gynt am hwch ag am long, yr hyn a ddyry gadarnhad mawr i'r dyb hono. Meddylir yn gyffredin mai dywalgi (tiger) ieuangc oedd y gath hon, a bod yr hen Gymry yn ei weled yn fwy tebyg i gath nag un creadur arall a adwaenent hwy, o ba herwydd galwasant ef yn "Gath Balug (the smooth—coated cat); a phan dyfodd y dywalgi i fyny yn greadur mawr, dechreuodd ladd a llarpio, yn ol ei anianawd, a chafwyd trafferth mawr i'w ddifetha.