Mae rhywbeth hefyd i'w ystyried yn yr enw Coll, a roddir ar lywydd y llong a ddarlunir dan yr enw hwch. Arwydda yr enw ei fod weithiau yn myned i golli, o ba herwydd rhesir ef gyda Menw ab Teirgwaedd a Drych ail Cibddar, fel y tri a allent wneyd eu hunain yn weledig neu yn anweledig yn ol eu hewyllys eu hunain. Os mai llywydd llong dramor oedd Coll ab Collfrewi, a'i fod weithiau yn dyfod â'i lestr i Brydain, ac yna yn dychwelyd yn ol i'w wlad ei hun, yna yr oedd yn dyfod yn weledig i'r Cymry, ac eilwaith yn myned yn anweledig, ac yr ydym yn cael deongliad cywir iawn o'r briodoliaeth hon a ddywedir ei fod yn feddiannol arni." Tebyg mai caingc gyfrinol yn, neu o'r cymmysgedd blaenorol, yw y chwedl ym mherthynas i'r "Hwch Ddu Gwta," a'r hen ddywediad adnabyddus hwnw—fod "yr Hwch wedi myn'd drwy'r shop," yn nghyda'r llysenw oestadol "Moch Môn."
NOSWYL Y MEIRW.
Cyn ddiweddared a chan mlynedd yn ol, yr oedd yn arferiad cyffredin mewn llawer parth o'n gwlad losgi canwyllau yn eglwys y plwyf ar Noswyl y Meirw, Tachwedd yr ail, er mwyn gweled pa lwyddiant a geffid yn ystod y flwyddyn a gyfrifid yn dechreu y pryd hwnw. Yn ngwyll y nos, y pryd a nodwyd, cyrchai haid o ferchetach i'r llan, a phob un yn dwyn ei chanwyll gyda hi.
Ar yr awr bennodol, goleuid yr holl ganwyllau gan y clochydd, presenoldeb a gwasanaeth yr hwn oedd yn anhebgorol ar yr achlysur. Ennynid y canwyllau gyda phob difrifoldeb a phwysigrwydd. Edrychai'r menywod gyda'r pryder mwyaf bob un ar ei chanwyll, gan sylwi yn fanwl ar y dull y byddai yn llosgi. Os llosgai yn oleu ac yn ddisglaer, llwyddiant a hawddfyd drwy yr holl flwyddyn ganlynol fyddai cyfran y wraig a'i pioedd.