Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/278

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Os marwaidd a dilewyrch, gan boeri a chlecian, y llosgai'r ganwyll, trwstan, trafferthus, ac anffodus fyddai amgylchiadau ei pherchen. Ond os diffoddai'r ganwyll cyn llosgi allan, byddai yr un a'i dygasai yno mor sicr o farw cyn diwedd y flwyddyn a phe y buasai yn farw y munyd hwnw!

Megis yr awgrymwyd eisoes, gwylid y canwyllau yn llosgi o'r dechreu i'r diwedd gyda'r dyddordeb mwyaf, a nodid yn ddyfal pa sut y byddai pob rhan o honynt yn llosgi; a chymharid y rhanau hyny â gwahanol ranau y flwyddyn oedd yn canlyn. Wedi llosgi allan y ganwyll olaf, cychwynai'r merched anweddog allan, a rhoddent ddau dro neu dri o amgylch yr Eglwys; ac yna elent adref i'w gwelyau, heb ddywedyd gair wrth undyn byw ar gyfrif yn y byd. Nid oedd sill i gael ei hyngan o'r pryd y deuid allan o'r Eglwys, hyd nes y deffroent bore dranoeth.

Yn eu cwsg y noson hono ymddangosai eu cariadon iddynt—y rhai oedd i fod yn wŷr iddynt, pan ddelai i ben yr amser a bennodid gan eu tyngedfenau.

Un tro, mewn Eglwys digon adnabyddus yn Lleyn, digwyddodd i ganwyll merch ieuangc o'r gymmydogaeth ddiffodd cyn hanner llosgi; credodd hithau druan, yr argoel anffodiog; cymmerodd y peth at ei chalon; ac ni fynai mewn un modd gael ei darbwyllo nad oedd y ganwyll yn gwybod dim am ei thynged; a'r canlyniad fu, bu farw yr eneth cyn pen tair wythnos!

Mewn rhai ardaloedd, arferid llosgi canwyllau, a chadw'r ddefod gyssylltiedig â hyny, ar Noswyl Mabsant y plwyf, ac nid ar Noswyl y Meirw; a byddid hefyd, mewn rhai manau, yn offrymu rhyw ychydig geiniogau i'r sant ag yr oedd y plwyf dan ei neillduol nodded.

Y NADOLIG.

Nid yw yn debyg fod y Nadolig yn ŵyl o dadogaeth Gymreig o'r hyn lleiaf, nid yw ei henw yn