arwyddo hyny. Y mae yn wir fod yr enw yn dwyn tebygolrwydd mawr i rai geiriau Cymreig, megis genidol, enidol, &c., y rhai a darddant o'r gair geni; ond nid yw yn debygol ei fod yn tarddu o honynt hwy. Ymddengys fod gwreiddyn yr enw yn y gair Lladin Natalis, ystyr yr hwn yw nativity, genedigaeth, neu ddydd genedigaeth. Nid oes hanes pa bryd y dechreuwyd cadw y dydd hwn yn ŵyl er coffadwriaeth am enedigaeth Crist. Rhai a ddywedant ei fod yn cael ei gadw felly er dyddiau yr Apostolion, ac yn y canrif cyntaf; ond o hyn nid oes prawf digonol wedi ei ddangos; ond y mae genym brawf fod y dydd hwn yn cael ei gadw er coffadwriaeth am enedigaeth Crist tua'r flwyddyn tri chant a hanner o oed Crist. Mae llawer rhagor o ddynion yn barotach i ddywedyd ei fod yn d'od, nag sydd yn alluog i ddywedyd paham y cedwir Nadolig yn ddydd gŵyl. Yr oedd y dydd hwn yn cael ei gadw gan ein teidiau oddiar yn forau; eu blwyddyn hwy a ddechreuai ar y diwrnod hwn; ac er dangos fod yr haul wedi gorphen ei gylchdro chwemisol, elent drwy lawer iawn o ddefodau a gloddestau o lawenydd wrth weled yr haul yn d'od yn nes atynt, gan daflu ei belydrau er gwresogi y ddaear eilwaith. Heblaw hyny, addurnent eu ceginau â cheingciau gwyrddion, er parch i'r dydd. Ac ar ol lledaeniad Cristionogaeth, yr oedd braidd yn anmhosibl dyddyfnu eu serchiadau oddiwrth lawer o hen arferion paganaidd; am hyny caniatawyd i'r Cristionogion boreuaf gadw rhai o honynt. Yn mhen ychydig amser, cytunwyd y 25ain o Ragfyr, er coffadwriaeth am enedigaeth Crist; oddiar hyny, y mae Nadolig yn cael ei gadw yn ddydd gwyl gan yr holl Gristionogion. Yn y dyddiau cyntefig, ymdyrai y bobl at eu gilydd ar y dydd hwn i ganu anthemau a charolau; gwelid hen ac ieuaingc yn cyduno mewn llawenydd i delori cathlau soniarus. Yr hynafiaethydd hyglod, Pennant, a ddywed yn ei
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/279
Gwedd