a ydyw y pethau hyny yn ddichonadwy, tebygol, a rhesymol. Ni ddylid credu dim o'r hen ddywediadau gwerinol, heb eu cymhwyso yn gyntaf at glorian beirniadaeth, a'u derbyn mor bell yn unig ag y caniata eu teilyngdod wneyd hyny. Coleddir amryw dybiau genym ni, heb unrhyw reswm dros hyny, amgen na'u bod wedi deilliaw oddiwrth ein hynafiaid; a chenym ninau feddyliau mor uchel a pharchus am danynt, fel yr ydym yn glynu wrthynt, er dangos i ni eu gwendid, yn nghyd â'u bod yn gwbl anamddiffynadwy.
Nid oes wrthddrych mewn natur nad appelid ato fel argoel o dda neu ddrwg; ac yn ol yr argoelion hyn y cynllunid amgylchiadau pwysicaf yn gystal â rhai mwyaf dibwys bywyd. Yr oedd ganddynt ddewiniaeth drwy fwg, drwy dân, yn ol y llinellau ar gledr y llaw, y gwythenau yn nghefn y llaw, drwy ddwfr, drwy ddrychau; yn ol ehediad, trydar, ymborthiad adar, &c.; ac nid diystyr ychwaith oedd crawcian y brain, a hw—hw galarnadol y ddallhuan, trydar y colomenod gwyllt a gwâr, a chân y ceiliogod, brefiadau y defaid a'r wyn, cyfarthiadau y cwn, &c.; ac nid oes odid randir yn y sir heb ei chwedlau a'i thraddodiadau am Wrach—y—Rhibyn, yr Andras, y Fall, Mam y Drwg, y Wrach, Canwyll Gorff, &c. Perthynai i'r bodau dychymmygol hyn eu swyddi a'u gweithredoedd arbenigol eu hunain; ond ymddengys fod ereill yn perthyn i'r un a'r unrhyw ddosbarth, a'r naill yn cyflawni gweithredoedd y llall, felly mae yn anhawdd gwahaniaethu nemawr rhwng nodwedd a swyddi y naill a'r llall. naill a'r llall. Y mae hefyd lawer o draddodiadau a chwedlau yn cael eu hadrodd mewn gwahanol ffurfiau ar hyd a thraws y byd, ag y mae yn dra anhawdd penderfynu pa le y cawsant eu bodolaeth, na pha un a ydynt of darddiad Cymreig ai nad ydynt; ac y mae llawer o honynt yn perthyn i wahanol barthau o Gymru, gydag ychydig amrywiaeth nodweddiadol o'r ar-