Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/281

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adref yn llwyddiannus, â brigyn o bren Joseph yn ei feddiant, i'w gadw yn grair i'w ddiogelu rhag pob anffawd!

Yr oedd y Nadolig yn un o'r gwyliau ag yr oedd iddo y croesaw mwyaf gwresog o holl wyliau y flwyddyn. Yr oedd y disgwyliad am dano yn un cyffredinol, ac yn peri mwy o ysgogiad a bywyd yn mheirianwaith gobeithion a dymuniadau y lliaws nag ydoedd ymweliadau gwroniaid, breninoedd ac amherawdwyr, oblegyd yr oedd gan y Nadolig wên i'w gosod ar bob wyneb, a gair i'w ddywedyd wrth bob calon. Chwiliai llawer plentyn pryderus am ei hosan hiraf ar gyfer ymweliad y boneddwr gwynfarfog ag y byddai ei ddyfodiad traddodiadol drwy y simdde. Ni byddai y fam chwaith, yn ddidaro, am y parch a ddangosid iddi gan ei phlant; a byddai taid a nain hefyd bron mor awyddus a'u hwyrion i weled sut y byddai i serch gofio am danynt; byddai son am enw y Nadolig yn peri adgyfodiad i fyrdd o gyd-feddyliau o'r mwyaf dymunol a hapus, efe ydoedd ddydd mawr yr ŵyl wyliau yn nghyfrif y werin, ac eto i raddau mawr.

Bu y Cymry unwaith yn nodedig am eu dull o gadw gwyliau; nid difyrwch bychan ydyw darllen, mewn hen lyfrau, am eu caredigrwydd a'u harferion. Yr oedd y Nadolig fel yn agor pob drws, ac yn dadgloi pob calon. Daeth a'r gwreng a'r bonedd yn nghyd, gwnaeth i neuaddau cestyll a llysoedd adseinio gan erddygan y delyn ac acen y garol, a pharodd i'w byrddau glecian o dan bwys y seigiau. Hyd y nod y bwthyn lleiaf a wisgai y celyn uwch ei ddrws, ymdywynai y tân drwy y ffenestr, fel i wahodd y pererin i droi i mewn i uno yn eu chwedlau hen a difyr. Y mae balchder y dyddiau diweddar wedi dileu llawer o hyn. Aeth y byd yn fwy bydol, gwelir mwy o afrad nag o gysur ymdaenodd pleser y ffrwd yn lletach, ond yn llawer basach nag o'r blaen, a gadawodd y