Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/282

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhedle dwfn, tawel, ar hyd yr hwn y dylifai ei dyfroedd melus unwaith. Os ennillodd cymdeithas rywbeth yn y cyfnewidiad, collodd lawer o'r teimladau cartrefol a'r pleserau a breswylient ar yr aelwyd, &c.

GWYLMABSANT.

Telir sylw mawr i ŵyl-ddyddiau y saint nas gwyr un o bob mil o'r bobl beth a wnaed ganddynt. Y Rhufeiniaid a'u galwent Fasti Memorice Sanctorem, a'r Cymry a'u galwent Gwyliau Myfyr Sant. Ac oddiwrth yr enw hwn y daeth Gwyliau Mab Sant. Pan adeiladid eglwysi gynt, arferid eu cyssegru a'u cyflwyno yn hollol i wasanaeth Duw; a chedwid gwledd i goffau hyny, a mawr lawenydd fyddai ar yr achos. Adgoffeid gwyl y cyssegriad bob blwyddyn ar ol hyny gan lawer iawn o bobl. Dywed Rowland's Mona Antiqua, y cedwid Gwylmabsant er cof am angeu y sant, ar enw yr hwn y gelwid yr Eglwys, neu er cof am ryw ddigwyddiad hynod yn ei fywyd, neu er coffhau dydd cyssegriad yr Eglwys a gyflwynid iddo. Am gannoedd lawer o flynyddau bu y Gwyl Mabsant yn un o brif sefydliadau y genedl Gymreig. Ei fod o darddiad Pabyddol sydd amlwg, yr hyn hefyd a brawf ei fod o hynafiaeth mawr. Telid gwarogaeth fanwl i Wylmabsant gan yr hen bobl. Os yn ddydd ympryd a gweddi yn herwydd y sant defnyddiol yr ordeiniwyd yr wyl yn wreiddiol, mynai y werin felusach mêl o ysgerbwd y llew hwn na galar ac wylofain. Os digwyddai Gwyl-y-sant a thymmor hela ysgyfarnogod yr un amser, y geinach gaffai fod yr aberth, a'r person a'i blwyfolion fyddent y gwledd-fwynhawyr. Nid oedd yr hen bobl yn anfoddlawn i'r person ymloni tipyn, os byddai ef yn gwmniwr da.