Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr wyl hon oedd uchelwyl pob plwyf, a byddai pawb yn cymmeryd eu rhyddid ar y diwrnod hwn yn y plwyf y perthynent iddo, i wneuthur bron pa beth bynag a ddymunent. Dydd oedd hwn o rialtwch gan bob dosbarth a sefyllfa o ddynion. Ymgystadleuid mewn pob math o chwareuon, megis rhedeg am y cyntaf, ymaflyd codwm, neidio, rhedeg mewn sachau, dringo polyn wedi ei seboni, &c., a cheid llawer neuadd gwrw, lle byddai y gwpan a'r delyn hyd oriau hwyr y nos, gan fyrhau yr amser ag ymadroddion digrifol, difyru a dawns a chân; a byddai cacenau, afalau a melusion, i'w cael yn mhob congl. Y dosbarth nesaf fyddai dawns y boneddigesau a'r boneddigion ieuaingc. Cefnogid y ddawns gan y rhieni, er mwyn cadw pellder digonol rhwng personau o waedoliaeth a'r dosbarth gwerinol, a'u rhwystro i ymgyfeillachu â hwy. Byddai treth neu "siot " y cyfarfod hwn tua phum swllt, er anrhydedd y cwmni urddasol oedd i mewn, ac yn rhiniog digon uchel i gadw y tlawd allan. Dilynid yr wythnos gan wahoddiadau cyfeillgar y naill i'r llall, a dyna yr adeg am "y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd." Ac er cyrhaeddyd mwy o lawenydd yn y presennol nag ydoedd o alar yn y gwreiddiol, yr ydoedd Gwyl-mabsant-bach, yn yr hwn yr oedd y gweision a'r morwynion yn ymgrynhoi i lyfu y dysglau, &c.

Yr oedd yn codi oddiar natur yr amgylchiadau hyn fod rhyw bethau yn cael eu dwyn yno ar werth at angen pobl bellenig. Wedi dwyn rhai pethau yno i'w gwerthu, neu i'w cyfnewid, gwelwyd y gallesid dwyn pethau ereill yno at fasnachu â hwynt. Dyna ddechreuad y ffair. Mae yn wir y gelwir rhai ffeiriau wrth yr enw hwn hyd heddyw, megis "Ffair Gw'l'absant Llanllyfni," &c., ac oddiwrth yr arfer o ddodi pobl i gysgu ar welyau caledion ar loriau neu lofftydd, ar adegau o