Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/285

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o styciau ŷd. "Boddi y cynhauaf," "tori pen y wrach," neu dori-pen-medi," ar ddiwedd y cynhauaf, oedd yn coroni'r cwbl; tori'r gaseg fedi â'r crymanau, y gwâs yn rhedeg â hi i'r tŷ i'w feistres, y morwynion yn ei gyfarch yn y drws â chymmaint a allent daflu o ddwfr arni, ac yntau yn ennill ei swllt os gallai roddi y gaseg fedi yn sych ar y bwrdd. Ar ol y cawl a'r cig, anwyl oedd gweled y bwdingen pen medi yn cael ei thafellu i'r bobl a'r plant. Byddid, yn y parthau mynyddig, arferol o ddyrnu y ceirch ar y maes, gynted ag y gellid ar ol ei gynheuafu; ac yna ei grasu mewn odyn i'r diben o'i silio; a llawer o ddifyrwch a fwynheid wrth ddyrnu ac adrodd chwedlau digrif o drwstaneiddiwch, ond mwy fyth wrth fwyta ac yfed, canys byddai "hen ddiod o waith tŷ" ganddynt:

Cwrw da a gwŷr i'w drin,
A gwin ar fin afonydd,
A phawb a'i bennill yn ei gwrs,
Heb son am bwrs y cybydd."


Heblaw yr arferai y werin gymmaint â champau ar adegau neillduol y gwyliau, nid oedd braidd unrhyw adeg arall nad oedd yn ymwneyd llawer â hwynt ac yn ymddifyru ynddynt. Gynt, prif ddiogelwch meddiannau oedd grym a gwroldeb eu perchenogion; ac oblegyd hyn yr oedd pawb yn ymdrechgar am fod yn fedrus i drin arfau rhyfel. I'r diben hwn byddent yn fynych yn arfer eu hunain mewn amrywiol gampau a ofynent am nerth a medrusrwydd; ac yr oeddynt yn awyddus iawn am gyrhaeddyd enwogrwydd, drwy gael y flaenoriaeth ar eu gilydd yn y gorchwylion hyn. Nid oedd yr holl gampau yn gofyn grym corff; ond yr oedd rhai o honynt wedi eu bwriadu i ddangos rhagoroldeb cynneddfau, yn ogystal a chywreinrwydd a medrusrwydd. Rhenid hwy i