daloedd a'r bobl; ond y mae y rhan fwyaf o honynt na wyddys byth yn mha barth o'r Dywysogaeth y cawsant eu harferyd i ddechreu. Y mae ambell i ddywediad fel yn perthyn i ryw barth neillduol o'r wlad; ond yr eithriad, nid y rheol, yw, fod y rhan fwyaf o honynt o natur genedlaethol; ac o herwydd hyny, nis gŵyr neb yn mha gwr y cawsant eu harfer i ddechreu; na pha awdurdod y sy dros lawer o honynt. Dyddorol iawn fyddai cael allan eu tarddiad, fel ag i gael goleu ar achosion ac achlysuron eu cyfansoddiad, a'u lledaeniad; ond y mae hyny yn bwnc dyrys ynddo ei hun, yn bwne nas gellir ymhelaethu arno oddiar brofiad personol, na chwaith wneyd unrhyw haeriad yn ei gylch gyda sicrwydd diymwad, oblegid y mae enwau y rhai a'u harferodd gyntaf wedi eu traflyncu oll gan wane anniwall coll ac annghof; ac y mae hyn yn ddiau yn golled fawr. Y maent yn llawn o grybwyllion hanesyddol o bwys—yn arddangos tymher meddwl a thueddfryd coel yr hen oesoedd; ac yn rhoddi cipolwg i ni ar y dull yr oedd pethau yn cael eu dwyn yn mlaen "yr amser gynt sut yr oedd ein hynafiaid yn byw ac yn bod," ac ar sefyllfa wareiddiol ein tadau yn yr oesoedd a'r canrifoedd a aethant heibio. Mewn hanesion poblogaidd y mae yn aml ryw ystyr dwfn, i bob rhan, pe gallem eu deall—rhyw gyfatebiaeth yn yr amgylchiadau i'r gwirionedd fel y deallid ef y pryd hwnw, sydd yn rhoddi llawer o wirionedd yn yr hanes, er fod ynddo gymmaint o'r ofergoeledd. Pa un bynag ai at bersonau ai ynte at rinweddau y cymhwysid llawer o'r hanesion, y maent yn parhau o hyd; a'r ansawdd arwyddocäol hwn sydd yn esbonio, i raddau mawr, y dylanwad a fu yn perthyn i lawer o chwedlau gwlad. Yr oedd rhyw duedd yn y Cymry a'r holl deuluoedd Celtaidd, i ddosbarthu pob peth yn drioedd, a dichon nad yw yr holl ddiarebion yn ddim amgen na llinellau olaf hen englynion tribanawg
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/29
Gwedd