rhoddion y gynnulleidfa. Elai y Person heibio i bawb; ac wedi myned i'w le, rhifai yr arian, a dywedai ar gyhoedd pa faint fyddai swm y casgliad. Yr oedd hon yn drefn dda, er arbed holi a gwâg siarad ar y ffordd adref. Hefyd, byddai tai yn perthyn i Eglwysi gynt, y rhai o dipyn i beth a drowyd yn dafarndai, at y rhai y gwelid gwragedd amaethwyr, ar foreu Suliau, yn. myned gyda'u sypynau tua'r Eglwysi, ac yn cyfranu rhoddion i'r tlodion, wedi hyny yn myned i'r Eglwys, yna yn ol adref.
NOSON WAU.
Noson y merched oedd y noson wau. Arferent ymgynnull at eu gilydd ar hirnos gauaf ar hyd y naill ardal a'r llall yn gylch, i'r diben o wau; a phleserus yr arferent, wrth brysur wau, mewn olrhain achyddiaeth gwahanol bersonau, am oriau gyda'u gilydd. Yn fynych byddai llangciau, trwy eu cariadon, yn dyfod i wybod am y noswaith, ac elent yno, a mawr fyddai'r helynt yn y canlyniad. Hefyd, byddai ganddynt nosweithiau i nyddu, &c. Nid boddlawn gan neb o honynt fyddai gweled gwau hosan na nyddu ar nos Sadwrn.
Rhaid fod ffordd pobl o fyw yn y dyddiau hyny yn wahanol iawn i'r hyn ydyw yn awr—y mae hosanau, yn ddiau, yn rhatach o lawer nag oeddynt, eithr y mae "ond" yn nglŷn a'u rhadedd. Nid y pethau "rhataf" yw y pethau rhataf yn mhen amser. Ceir pâr o hosanau clysion heddyw am ddau swllt, ond yn mhen mis byddant yn druenus yr olwg arnynt. Nid felly hosanau gwêedig yr hen wragedd gynt! "Para byth" oedd enw y cyfryw. Gydag ychydig ofal, byddent yn ymgeleddu yr un traed yn mhen dwy flynedd. Y cyfryw yw troion bywyd—y mae cryn lawer o wersi i'w