Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/293

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen ddewinesau melynddu gynt, yn hwyr y prydnawn, megis "Rhad ar y dâ," "Duw gato'r dâ," neu "Rhad Duw arnynt." A phan ddelai hen wrageddos at y drysau i laetha, disgwylid iddynt ddywedyd y cyffelyb ymadrodd, neu "Bendith Duw yn y tŷ," neu "Rhad Duw ar y rest" (gweddill), &c. Mae rhai o'r cyfarchiadau yn nodweddiadol iawn, yn llawer mwy moesgar a synwyrol, na chyfarchiadau pobl yr oes bresennol. "Cofia ni at Wilym Owain a'i deulu, a phob hen gyfaill arall, a'r diawl a'ch collo chwi i gyd," ebe Iolo Morganwg mewn llythyr at Owain Myfyr yn 1800. Pe bae mwy o gyfarchiadau fel yna y dyddiau hyn, byddai yn hynod amserol; yn lle hyny, y mae "a'ch cipio" wedi cymmeryd lle "a'ch collo" yn mhob cyfeiriad. Yn fynych iawn arferid "Ymgroesi" yn gyfarchiad cyffredinol mewn dull o sylweddoli presennoldeb Crist gan yr hen bobl, drwy daro croes ar y ddwyfron, rhoddi'r bys ar waelod y gwddf, ar "bwll y galon," ar y fron dde ac ar y fron chwith, pan oddiweddid hwy gan rhyw drychineb neu brofedigaeth. Mae y gair "ymgroesa" erbyn hyn yn cael ei gymathu neu ei wneyd yn gyfystyrol debyg i "cymer ofal, bydd wyliadwrus, ymochela," heblaw y defnyddid croes i wahanol ddibenion yn fynych i gyfeirio pererinion ar eu taith anhyffordd ac anhygyrch, yn gyffelyb o ran pwrpas i'r hen feini hirion—"Meini Gobaith" fel eu gelwid, sef y meini llwybreiddiol, gweledig o'r naill fan i'r llall, i ddangos y ffordd dros diroedd dyrys, pryd yr oedd yr holl wlad yn arw a gwlyb, a llawn o ddyrysni a choed.

INTERLIWTIAU.

Llawer iawn o Interliwtiau a chwareuid gynt, pan oeddynt yn eu bri, sef rhyw fath o chwareu gyda geiriau wedi eu prydyddu yn y ffurf o