Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/296

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan eu lleisiau, ac i'r ymladdwyr ddangos eu nerth. Byddai yr Eglwys yn llawn o bobl, canys yn yr Eglwys y priodid; ac nid oedd, y pryd hyny, ond gwallgofddyn a feddyliai am briodi tuallan i Eglwys ei blwyf. Treulid y noson mewn difyrwch, a chyfranai bob un o'r cwmni chwecheiniog tuag at ddiod, ac os byddai gweddill rhoddid ef i'r pâr ieuangc, yn enwedig os digwyddai iddynt fod yn isel eu hamgylchiadau. Gelwid y mis cyntaf ar ol priodi yn fis mêl, oddiwrth arfer yr hen bobl yn yfed gwin mêl neu ddiod fêl am leuad gyfan ar ol priodi. Hefyd sonir am "neidio dros yr ysgub" mewn cysylltiad â phriodi. Y chwedl yn nglŷn â'r ddefod sy debyg i hyn:—Pan y byddai rhieni y pâr ieuangc—y tad a'r fam o'r ddeutu, yn foddlawn iddynt briodi, galwent atynt yr hen afgwr hynaf o fewn yr ardal, yr hwn, yn ol traddodiad, fyddai raid fod yn dderwydd; yna, yn mhresennoldeb y rhieni ac yntau, gofynid i'r pâr priodasol "neidio dros yr ysgub," yr hon oedd raid fod wedi cael ei gwneuthur o frigau derw; ac ysgub o'r fath, hyd yn ddiweddar, gan hen bobl a elwid yn ysgub dderwydd, ac ystyrid fod math o gyssegredigrwydd yn rhwym o fod yn nglŷn â hi.

"Cario Ceffyl Pren.—Disgyblaeth lem oedd hwnw ar y pâr priodasol a annghofient eu llw wrth yr allor i'r fath raddau ag i ymryson ac ymladd â'u gilydd. Pan ddeallid fod annghydfod mewn tŷ, elai holl lebanod yr ardal tuag yno, gan oernadu, a dodid un o honynt ar y ceffyl, yr hwn a gludid gan bedwar o ddynion cryfion a phenwan. Byddent ar adegau yn adrodd rhyw rigwm pen bawd tebyg i'r un canlynol:

HOLWR.—Am bwy'r wyt ti'n marchogaeth?
ATEB.—Am ddeuddyn o'r gym'dogaeth.
H—Pwy yw rheiny'r Cymro?
A.—Twm ac Ali Beuno.
H.—Ydyw Ali'n curo'n arw?