Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Derwyddon; oblegid y mae perthynas agos rhwng vr hen ddywediadau neu'r diarebion â'n barddoniaeth. Mae Englynion y Misoedd" ac "Englynion y Clywed," yn ffrwythlawn o honynt. Mae llawer o ryw ofergoelion mân wedi eu traddodi i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth mewn modd nas gellir yn hawdd gyfrif am dano, ar mynych adroddiad o honynt wedi peri fod pawb yn eu credu yn ddiymchwil, fel y diarebir—Nid yw chwedl byth yn colli wrth ei hail adrodd." Yr oedd ofergoeledd y nain yn cael ei gadw yn ofalus yn nghof ei hwyres; ac felly o dad i fab, fel y dywedir—

Gan fy nhad mi glywais chwedl,
A chan ei daid y clywsai yntau,
Ac ar ei ol mi gofiais inau."

Y maent, ar ryw olwg, yn debyg o ran eu cadwraeth i wahanol gampau diniwed plant, y rhai ydynt hynod am eu holyniad rheolaidd ar gylchdre blynyddau ac oesau—pob camp yn ei hadeg i' dim, fel pe yn deilliaw oddiar effaith natur faw ddiwyrni; ond nid ydynt felly; ac nid oes air mewn na llyfr na dim arall i gadw cof na rheol o honyut dim ond megis,—"Mi glywais gan un a glywsai a glywsai gan un a fuasai." Nid ydyw na wyddom pa fodd y maent felly, yn dirymu dim ar y ffaith.

Yr oedd y fath ddynion a Siarls yr Ail, Melancthon, Richelieu, Mazarine, &c., yn arfer dew— iniaeth, deongli breuddwydion, &c. A phe yr eir fel yna yn ol drwy yr oesoedd tywyll, ac o un wlad i'r llall, hyd at yr hen Rufeiniaid enwog, canfyddwn foneddig a gwreng, ysgolaig a rhyfelwr, offeiriad ac athronydd, yn ngafael yr un ofer-goeledd. Pa un a oeddynt yn credu a oedd gwirionedd yn y fath beth, neu ynte yn eu defnyddio fel moddion moesol i ddylanwadu ar y bobl? Nid hawdd gwybod, eithr amlwg yw mai nid yn mysg y werin y ceir tarddiad y tryblith hudoliaethau a