Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/303

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nerth naturiol eu hiaith gyda hwy; ac nad oes un sain-beiriant wedi cofnodi swn clochaidd eu lleisiau, a thoriad clir eu geiriau cryfion. Erbyn hyn, y mae rhai pobl a gymmerant arnynt eu hunain fod yn gall, yn ymdrechu olrhain yr arferiad ffol o lygriadau lledchwith geiriau y werin, fel y moddion diogelaf i ddyfod o hyd i'w gwir ystyr llygriadau ag sydd yn cael eu llurgunio yn herwydd musgrellni ymadrodd, a mympwy ambell Gymro coeg-ddysgedig, neu Sais chwithig ei dafod. Er hyny, dyledus yw cydnabod fod iaith bur i glustiau gwerin yn sicr o fod yn ddiffygiol mewn effeithiolrwydd, am fod iaith gwerin yn fyrach a mwy cynnwysfawr, ac y gellir dyweyd mwy mewn ychydig frawddegau o honi, nag mewn awr o iaith glasurol—fod y Gymraeg lafar yn fwy hysain na'r Gymraeg ysgrifenedig, ond gofalu am beidio ei dirwasgu yn ormodol, fel ag i greu amheuaeth beth all geiriau a'u hystyr fod. Ni ddylid llochesu bwnglerwch na gosod "arfer" a "hen arfer" na "drwg arfer" yn lle dealltwriaeth a thegwch. Ar yr un pryd rhaid addef fod tybrediad y meddwl weithiau yn achosi bwrw allan lythyrenau mewn modd a ystyrir yn lled hyweddus a didramgwydd. Dyma ddull llednais o'r fath ag sydd megis wedi ymwisgo â diniweidrwydd—Englyn anwesol mam i'w phlentyn—anwylyd bach—a ddeil i'w adrodd fwy na chanwaith heb ddangos dim o'r gwrthuni:

"Y delaf o'r holl deulu—O! 'r gwesyn!
Rho gus am dy fagu:
Hefo'i ben cws faban cu
Ni a'i gwacwn i gycu."


Weithiau dygir llythyrenau achlysurol i rai geiriau na bydd eu hangen ynddynt ond er mwyn hyseinedd yn unig, fel yn y geiriau Arglwydd, breuddwyd, erddo, erddi, erddynt, rhyngddynt,