oresgynent ein gwlad drwy gydol yr holl ganrifau meithion. Yr ydym ni yn yr oes oleuedig ac ymarferol hon yn barod i wawd-wenu, bron yn ddifesur, am ben yr ofergoelion a ddelid ac a gyfaddefid gan ein hynafiaid yn yr amser gynt." Yr ydym yn llongyfarch ein hunain, am ein bod wedi cael gwaredigaeth, ac yn rhydd oddiwrth ffol—bethau o'r fath. Ond argyhoeddai ychydig o adfeddwl ni, mai ychydig mewn cymhariaeth sydd wedi cael rhyddhad perffaith oddiwrthynt, y rhai, pe eu dygid i brawf, nad ydynt wedi symud nemawr ddim oddiwrthym. Yn lle bod cynnydd dysgeidiaeth yn tuedd-benu i'w hymlid i ffwrdd, y mae y bobl yn credu heb gyfaddef,—na chymmeryd arnynt—credant ynddynt mor benderfynol ag i ganiatau i'w gweithredoedd gael eu cyfeirio ganddynt. Pan y byddont yn myned yn mlaen at oriau'r prydnawn, ac yn dechreu myned ar oriwaered bywyd, y mae adgofion a chyssylltiadau hen bethau yn dyfod yn fwy anwyl yn eu serch—carant fyw yn y presenol ar felusion boreu oes— bydd pob llecyn o wlad eu genedigaeth, yn llawn o ryw swyn iddynt yr hen balasau a'r hen eglwysi, sydd wedi goroesi oesoedd lawer, yn uchel-gyssegredig yn eu meddyliau; a dyna yr union amser i dynu allan o honynt eu casgliadau o wahanol gredöau, arferion gwlad, a gwrhydri y dyddiau gynt; ac nid yw yn llai na dyledswydd ar bob Cymro aiddgar dros ei genedl, gadw cof, a thrysori yr hyn sydd ar dafod y werin o draddodiadau lleol casglu hen ddiarebion, ffraethebion, gwirebau a dammegion nad ydynt yn argraffedig—casglu hen ddychymygion, chwedlau, mabinogion, a phennillion a ddatgenid gyda'r tànau, hen ganeuon a fyddont o nodwedd hanesiol, neu yn taflu goleuni ar arferion a defodau neu syniadau ein hynafiaid casglu y cyfreithiau lleol, neu gostwm gwlad mewn amaethyddiaeth a bugeiliaeth—cofnodi chwareuon ac ofergoelion o bob math. Y
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/31
Gwedd