Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/311

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HINDRO.—Hindrian yr hen Saxon, a to hinder y Sais yn lled gyffelyb, ond tebycach y blaenaf mewn ach ac ystyr i'r eiddom ni. Gosod rhwystr ar ffordd un; neu un yn ymrwystro, gan ym— ddyrysu yn feddyliol hyd goll synwyr.—"Mae o wedi hindro yn lân, druan."

HORWTH.—Bolgwd, torgwd, boliog, &c. "Yr hen horwth diog.

HUWCYN LONYDD.—Cynnrychioli cysgni mewn iaith ac osgo a gwedd y mae "Huwcyn neu Huwcyn Lonydd," fel y mae Dafydd Jones, Morys a Rhys yn cynnrychioli y môr a'r gwynt, mewn rhai lleoedd. Pan byddo plentyn, yn nydd— iau cyfareddol mebyd, wedi ymollwng i gwsg, dy— wedir fod "Huwcyn" neu neu "Huwcyn Lonydd wedi dyfod ato "—fod "Huwcyn wedi ymosod yn drwm arno," &c. Nid oes ystyr yn y byd i ymad— roddion o'r fath y tu allan i gostrel diddanwch syml digrifwch, ac nis gellir pellach o honynt.

IAR.—Lliosog ieir; ond iarod ar achlysuron o wendid neu esgeulusdra, megis "Yr hen iarod diffrwyth."

LOIG. "Cloig, hesben, clicied dro, cloigyn."

LON GOCH.—Arferir ar lafar cyffredin hyd heddyw, ddyweyd am rywbeth elo o'r genau i gyfeiriad y bol, ei fod wedi myn'd i lawr y lôn goch "cyfystyr a dyweyd "dyna ddiwedd am dano."

LLECHGI.—Un fyddo ar ei falais—bid gi bid ddyn yn gwilio ei gyfle i ddisgyn ar y diniwed, a sicrhau ei gudd—ddibenion i'w fantais ei hun. Perthyn i'r un gwehelyth y mae'r chwiwgi a'r chwiwleidr hefyd, yn ol eu graddau.

LLEITHIG.—Maingc, troedfaingc. Yn amser yr hen loriau pridd, byddai pobl gwell allan na'r cyffredin yn cael math o ystyllen dan eu traed, i gadw y lleithder ymaith, a Lleithig y gelwid hono, o llaith-io.